Y Llyfr Du o'r Waun
Llawysgrif a ysgrifennwyd ar femrwn yng Ngwynedd (yn Arfon efallai) tua chanol y 13g yw'r Llyfr Du o'r Waun (Peniarth 29) (Saesneg: Black Book of Chirk neu'r Chirk Codex). Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o'r casgliad Llawysgrifau Peniarth.
Pen tudalen 44 o'r Llyfr Du o'r Waun | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Deunydd | memrwn, inc |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Lladin, Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1275 |
Tudalennau | 66 |
Dechrau/Sefydlu | c. 1275 |
Genre | ffeithiol |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Prif bwnc | Cyfraith Cymru |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguMae'n cynnwys y testun Cymraeg hynaf o'r Cyfreithiau Cymreig (Cyfreithiau Hywel Dda) a adweinir fel Fersiwn Llyfr Iorwerth. At y testun hwnnw ychwanegwyd marwnad i Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a rhestr o ddiharebion Cymraeg. Ceir hefyd nodyn dyddiedig 1608 gan yr ysgolhaig Syr Thomas Wiliems. Roedd y llawysgrif yn eiddo i John Edwards o'r Waun ar ddechrau'r 17g.
Mae'r llawysgrif yn adnabyddus am unigrwydd ei orgraff. Mae hyn wedi arwain rhai ysgolheigion (megis Morgan Watkin) i awgrymu iddi gael ei chopïo gan ysgrifennydd Eingl-Normanaidd nad oedd yn medru'r Gymraeg yn ddigonol, neu gan ysgrifennydd oedd yn gyfarwydd â thraddodiadau orgraff Ffrangeg Normanaidd yn unig.[1] Tueddir heddiw (yn dilyn Paul Russell[2]) i briodoli hynodrwydd yr orgraff i ffynhonnell Hen Gymraeg oedd yn defnyddio confensiynau sillafu ceidwadol.
Llyfryddiaeth
golyguTestun
golygu- J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Chirk Codex. Facsimile of the Chirk Codex of the Welsh Laws (argraffiad ffacsimili) (Llanbedrog, 1909)
- Copi digidol ar Syllwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Astudiaethau
golygu- Russell, Paul. Scribal (in)competence in thirteenth-century north Wales: The orthography of the Black Book of Chirk (Peniarth ms. 29). Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 29 (1995): 129–76
- Watkin, Morgan. The Black Book of Chirk and the Orthographia Gallica Anglicana: The chronology of the Black Book of Chirk on the basis of its Old French graphical phenomena. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14 (1966): 351–60
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Watkin, Morgan. 'The Black Book of Chirk and the Orthographia Gallica Anglicana: The chronology of the Black Book of Chirk on the basis of its Old French graphical phenomena'. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14 (1966).
- ↑ Russell, Paul. Scribal (in)competence in thirteenth-century north Wales: The orthography of the Black Book of Chirk (Peniarth ms. 29). Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 29 (1995): 129–76.