Agor y brif ddewislen
Glaw ar wair

Dŵr wedi cyddwyso yw glaw; ceir ffurfiau eraill gan gynnwys: eira, eirlaw, cenllysg / cesair a gwlith.

Pan fo'n bwrw glaw mae dafnau o ddŵr a ffurfiwyd mewn cymylau yn cyddwyso ac yn disgyn i'r ddaear ond nid ydyw bob amser yn cyrraedd y ddaear. Os yw'n disgyn drwy awyr sych fe all droi'n anwedd cyn ei gyrraedd.

Ceir systemau mewn dinasoedd a luniwyd yn bwrpasol i sianelu'r glaw i'r môr; ar adegau, pan nad yw'r system yn ei le gall hyn droi'n llifogydd. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw enw'r corff sy'n gyfrifol y systemau rheoli glaw.

Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.

Ymateb i ormodedd a phrinderGolygu

Hysbyseb yn y wasg yng Nghaernarfon dyddiedig 12 Medi 1872:

"Gwlybaniaeth yr Hin. Cyfarfod Gweddi i'r dref yn gyffredinol (o bob enwad) am 7 o'r gloch heno (Nos Iau)... Yr oeddym yn teimlo yn ddwys fod ŷd ein gwlad allan, a rhan fawr o honno ar lawr, ac mai dal i dywallt y mae costrelau y nefoedd; fod y tywydd presennol yn drygu defnydd ein hymborth yn ddirfawr... mae'n sicr y bydd prinder yn y wlad hon... Dan yr amgylchiadau hyn yr ydym yn credu mai ein dyletswydd a'n braint ydyw troi at yr Arglwydd, yr hwn yn unig a all "rwymo godreu'r cymylau"... ac os bydd i ni fel gwlad... neshau mewn edifeirwch a ffydd ato, yr ydym yn credu y cawn ein gwrandaw (Job 37. 6,7; 38. 37; Iago 5. 17, 18)... yng nghapel Moriah".
Argraffwyd H Humphreys, Caernarfon [1]

Ymadroddion a geirfa am lawGolygu

  • Ysgwyf

Fe barodd y gair hwn gryn benbleth i rai ohonom wrth i ni fewnbynnu dyddiaduron rhyfeddol Edward Evans, Parsele, St Edrens, Sir Benfro i ddyddiadur Llên Natur. Dyma rai o gofnodion EE yn cynnwys y gair:

5 Mawrth 1851... Bwrodd amryw scwyfur o geseirlaw – ond dim harm
26 Chwefror 1865... Shifftod y gwynt ir West, a daliod yn llid da, odieithr rhai scwyffs o wlaw mân – gwynt Nor. West Hwyr.

Mae Geiradur Prifysgol Cymru yn cyfeirio at y gair fel a ganlyn: sgwyf, ysgwyf (Saesneg eto mae'n debyg) sgum, ewyn, trochion. Felly pa fath o fwrw glaw oedd "Bwrw scwyffs nawr ac eilwaith" (enghraifft arall). Dyma ddywed Geraint Wyn Jones, Hwlffordd: scwyffs = sciffen yn cael ei ddefnyddio yn yr ardal yma am gawod ysbeidiol neu squall. Dyma ddywed Andrew Hawke, golygydd GPC am scwyffs:

Yn hytrach na sgwyf, ysgwyf, mae'n debycach o fod yn ffurf luosog ar: sgwiffen, [h.y. dim tarddiad] eb. ysgeintiad (o rywbeth): a sprinkling (of something). Ar lafar, `towlu sgwiffan o ddwst dros yr "ata" (Myn.). Methu gweld dim byd tebyg yn yr OED na'r EDD (English Dialect Dictionary, Wright) yn yr un ystyr – ond mae bron yn sicr yn air benthyg o ryw iaith.
  • Sgrympiau Gŵyl y Grog

Cawodydd trymion sydyn yn parhau am ychydig yw ‘sgrympiau’ a gawn ogylch Gŵyl y Grog, sef Medi 25.

  • Glaw ’Stiniog!

O bapur bro Blaenau Ffestiniog:

”Nid oes dwywaith amdani hi ein bod ni wedi cael ein gweddill a’n gwala o law ‘Stiniog yn ystod y misoedd diwethaf ‘ma [Medi 2012]. Efallai bod gennych ryw led-gof inni gael tywydd teg ym mis Mawrth eleni, ond prin fod angen imi eich atgoffa mai ychydig iawn o dywydd heulog a welsom ers hynny.

Beth bynnag, erbyn i’r rhifyn hwn ymddangos o’r wasg bydd mis Medi wedi dod ac wedi mynd, ac er ein bod yn rhyw hanner disgwyl cael "sgrympia" Gŵyl Grog’ yn ystod y mis hwn, y mae hi wedi bod yn ddigon sgrympiog drwyddo. Y newid yn hinsawdd y byd, efallai. Gyda llaw, cawodydd trymion sydyn yn parhau am ychydig yw "sgrympiau" a gawn ogylch Gŵyl y Grog, sef Medi 25.

Ond beth am y dywediad ‘glaw Stiniog? O beth gasglaf y mae’r dywediad yn bodoli ers 1886, o leiaf, yn y ffurf ganlynol a welir ym mhapur newydd Baner ac Amserau Cymru am Dachwedd y flwyddyn hon:

”Agoriad Clwb Torïaidd – Prydnawn ddydd Gwener diweddaf, cyd-ymgynullodd blaenoriaid y blaid Dorïaidd yn sir Feirionnydd, i ganol gwlaw mawr Ffestiniog, i agor eu Clwb Torïaidd sydd wedi ei sefydlu yn y Gors New Market Square ...“.

Erbyn y flwyddyn ganlynol, ceir y sylwadau hyn yn yr un papur:

”Gwlaw Ffestiniog – llawer o sôn a siarad sydd am wlaw Ffestiniog, ac nad oes un man tebyg iddo am dywydd gwlyb. Dywedai Mr. E.P. Jones, U.H. y dydd o’r blaen ein bod wedi cael yn ystod y flwyddyn ddiweddaf 196 o ddyddiau teg, a 169 yn wlyb; ac felly, nad oedd ond 27 o wahaniaeth rhyngddynt a bod yn gyfartal”

Fel y gwelwch roedd E.P. Jones, a fu’n preswylio yng Nghefn y Maes, Manod ac wedyn ym Mhlas Blaenddol, Llan Ffestiniog yn cadw manylion am y tywydd am flynyddoedd. Byddaf yn rhyfeddu wrth glywed yr arbenigwyr tywydd yn cyfeirio at y flwyddyn 1914 fel yr un pan ddechreuwyd cofnodi’r tywydd ym Mhrydain. Wrth gwrs, cyfeirio at gofnodion y gorsafoedd meteoroleg a sefydlwyd gan y weinyddiaeth y maent a’r rhai sy’n rhoi darlun o dywydd Prydain gyfan, ac nid o un man arbennig.

Pa fodd bynnag, y mae cofnodion lleol yn llawer mwy diddorol yn fy marn i. Dyma un cyfeiriad arall at law Ffestiniog o bapur Baner ac Amserau Cymru, Hydref 10,1896:

Gwlaw ! Gwlaw! – Nid oes yr un dydd ers mis, o leiaf, nad ydym wedi cael ein mwydo gan wlaw, a hwnnw yn wlaw mawr, fel gwlaw Ffestiniog. Nid yw yn ddiogel myned allan heb rhyw ddarpariaeth i ochel y gwlaw. Cwynir yn dost gan y mân ffermwyr sydd ag ychydig ŷd ar y mynyddoedd, ei fod wedi pydru ac yn ddiwerth i ddyn ac anifail a’u gweddi yw, O ! na byddai’n haf o hyd“.

Yn ddiau, dyna yw gweddi llawer ohonom ninnau hefyd, a phwy a ŵyr, efallai y cawn ni dywydd teg yn ystod yr wythnosau nesaf a chyn i’r gaeaf ddod ar ein gwarthaf. Gyda llaw, yn ‘Y Genedl Gymreig’ am y flwyddyn 1898 cyfeirir at ein glaw fel ‘Glaw ‘Stiniog. Tybed a ydych chi wedi gweld cyfeiriad ato cyn y dyddiadau uchod?[1][angen ffynhonnell]

Cyswllt allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Steffan ab Owain, papur bro Ffestiniog
Chwiliwch am glaw
yn Wiciadur.