Ystrad
Ystyr y gair ystrad yw 'dyffryn', 'glyn' neu 'wastadedd'. Mae'n air Cymraeg cynhenid sy'n tarddu o'r gwraidd Celteg *strato-. Dan ddylanwad y gair Lladin cytras strata, datblygodd yr ystyr hynafiaethol 'stryd' hefyd.[1] Mae'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd, yn cynnwys:
- Ystrad Aeron, pentref yn Nyffryn Aeron, Ceredigion
- Ystrad Alun, cantref canoloesol yn ne-ddwyrain Cymru
- Ystrad Clud, teyrnas Frythonig yn yr Hen Ogledd
- Ystrad Fflur (Abaty Ystrad Fflur; Strata Florida), Ceredigion
- Ystradgynlais, tref yng Nghwm Tawe Uchaf, Powys
- Ystrad Marchell, cwmwd canoloesol, Powys
- Abaty Ystrad Marchell (Strata Marcella)
- Ystrad Meurig, pentref yng Ngheredigion
- Ystrad Mynach, tref ym mwrdeistref sirol Caerffili
- Ystrad Rhondda (neu 'Ystrad'), pentref yn Rhondda Cynon Taf
- Ystrad Tywi, rhanbarth hanesyddol, Sir Gaerfyrddin
Hefyd:
- Afon Ystrad, Clwyd
- Llanfihangel Ystrad, Ceredigion
- Yr Ystrad, enw arall am gymuned Ystrad Rhondda, Rhondda Cynon Taf
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol IV, tud. 3865.