Seiclwriag rasio Seisnig ydy Yvonne McGregor MBE (ganwyd 9 Ebrill 1961, Wibley, Bradford)[1]. Er iddi fod yn llwyddiannus ym myd seiclo, dechreuodd seiclo yn gymharol hwyr yn ei gyrfa yn 29 oed yn 1990, bu'n rhedwraig ffriddoedd metrus am gynt.[2]

Yvonne McGregor
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnYvonne McGregor
Dyddiad geni (1961-04-09) 9 Ebrill 1961 (62 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Math seiclwrTreialon Amser & Pursuit
Prif gampau
Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
Gemau'r Gymanwlad x2
Gemau Olympaidd
Golygwyd ddiwethaf ar
26 Medi, 2007

Cynyrchiolodd Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia, yn 1994; yno enillodd y fedal aur yn y Ras Bwyntiau, medal efydd yn y Pursuit a'r Treial Amser, cystadlodd hefyn yn y ras ffordd.[3]

Cynyrchiolodd Brydain yn Pursuit a Treial Amser y Gemau Olympaidd 1996 yn Atlanta ac unwaith eto yn Sydney yn 2000, yn y ras ffordd a'r Pursuit, enillodd fedal efydd yn y Pursuit.[1]

Cafodd ei hanrhydeddu gyda MBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Franhines yn 2002.[2]

Cyn ymddeol o seiclo cystadleuol, roedd Yvonne yn benderfynnol o gyflawni un campwaith olaf, gwnaeth hyn ar ffurf gosod Record Ewropeidd yr Awr merched newydd, gan reidio 43.689 km mewn awr ar y trac ym Manceinion. Curodd y record gynt, a osodwyd yn 1978 gan Cornelia Van Oosten-Hage, 43.083 km, o 503 metr yn ychwanegol. Curodd hefyd y record answyddogol, 43.475 km, a osodwyd gan Leontien Van Moorsel y mis medi cynt.[4]

Canlyniadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-09-26.
  2. 2.0 2.1 Cyclist McGregor honoured Rhagfyr 2001
  3. "Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-08-10. Cyrchwyd 2007-09-26.
  4. MCGREGOR'S AGONY OVER: SUCCESS IN EUROPEAN HOUR Archifwyd 2005-04-16 yn y Peiriant Wayback. British Cycling



   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.