Zac Goldsmith
Gwleidydd Ceidwadol Seisnig yw Frank Zacharias Robin "Zac" Goldsmith (ganwyd 20 Ionawr 1975).
Zac Goldsmith | |
---|---|
Ganwyd | 20 Ionawr 1975 Westminster |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, golygydd, newyddiadurwr, llenor, ecolegydd |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Minister of State for Pacific and the Environment, Minister of State for Overseas Territories, Commonwealth, Energy, Climate and Environment |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | James Goldsmith |
Mam | Annabel Goldsmith |
Priod | Sheherazade Goldsmith, Alice Rothschild |
Plant | Uma Goldsmith, Thyra Goldsmith, James Goldsmith, Dolly Goldsmith, Max Goldsmith, Edie Goldsmith |
Gwefan | http://www.zacgoldsmith.com/ |
Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab i'r dyn busnes a biliwnydd Syr James Goldsmith, ac Annabel Vane-Tempest-Stewart, merch i'r 8ed Ardalydd Londonderry. Addysgwyd yng Ngholeg Eton (a fe'i diarddelwyd o achos cyffuriau) a'r Cambridge Centre for Sixth-form Studies.
Roedd yn aelod Seneddol dros Richmond Park (ger Llundain) rhwng 2010 a 2016 fel aelod y blaid Ceidwadwyr, gyda mwyafrif o 23,015 yn 2015. Ymddiswyddodd o'r blaid a'i sedd yn San Steffan ym mis Hydref 2016 mewn protest am estyniad Maes Awyr Heathrow, a cheisiodd yn aflwyddiannus i gael ei ailethol i'r sedd yn yr is-etholiad fel ymgeisydd annibynnol. Fe'i etholwyd unwaith eto yn aelod seneddol Richmond Park yn etholiad brys Mehefin 2017.
Roedd yn ymgeisydd aflwyddiannus dros Faer Llundain ym mis Mai 2016.