Mae Zanagee Artis (ganwyd 2000 neu 2001) yn ymgyrchydd hinsawdd Americanaidd sy'n fwyaf adnabyddus am gyd-sefydlu'r grŵp actifydd hinsawdd dan arweiniad ieuenctid Zero Hour. Yn 2021, roedd Artis yn Gyfarwyddwr Polisi Dros Dro gyda Zero Hour.[1]

Zanagee Artis
GanwydClinton, Connecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn yr ysgol uwchradd, cychwynnodd Bwyllgor Cynaliadwyedd yn ei ysgol uwchradd, pwyllgor a esblygodd yn 'Dîm Gwyrdd'.[2] Yn ystod haf 2017, mynychodd raglen haf ym Mhrifysgol Princeton. Dywed Artis iddo ddechrau meddwl y tu hwnt i'w gymuned leol ar ôl siarad â chyd-gyfranogwyr y rhaglen Jamie Margolin a Madelaine Tew. Fe wnaethant hwy ac ef, ac ymgyrchwyr ieuenctid eraill gyd-ffurfio Zero Hour.[3] Achosion craidd Zero Hour yw gwladychiaeth, cyfalafiaeth, hiliaeth a phatriarchaeth o fewn newid hinsawdd.[4]

Trefnodd Zero Hour orymdaith Hinsawdd Ieuenctid (Youth Climate March) yyng Ngorffennaf 2018 yn Washington, DC, gyda gorymdeithiau lloeren eraill yn cael eu cynnal ledled y byd.[5][6] Cynlluniodd Artis, fel cyfarwyddwr logisteg, y prif ddigwyddiad a chydlynu gyda Heddlu Capitol yr Unol Daleithiau. Dywedodd Artis, "Roedd hwnnw'n bwynt lansio go iawn i'n mudiad, ac fe ysbrydolodd bobl ifanc ledled y byd hefyd. Ysbrydolodd yr Youth Climate March ymgyrch Gwener y Dyfodol (Fridays for Future) Greta Thunberg." [7]

Yn dilyn hynny, gweithiodd Artis gyda 'Mudiad Sunrise' ar streiciau hinsawdd Medi a Thachwedd 2019.[8] Ym Medi 2020, nododd fod Zero Hour wedi symud ei ffocws at addysg. Yn ystod etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020, fel cyfarwyddwr polisi, arweiniodd Artis yr ymgyrch #Vote4OurFuture. Canolbwyntiodd yr ymgyrch ar daleithiau ymylol fel Michigan a Pennsylvania, gyda'r nod o gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio i gefnogi'r Fargen Newydd Werdd.[9] Dywedodd Artis, "Rydyn ni am i newid hinsawdd fod y brif flaenoriaeth ar feddyliau pobl pan maen nhw'n bwrw eu pleidlais yn Nhachwedd oherwydd y ffordd y bydd yn effeithio ar bobl o liw a phobl sy'n byw yn y dinasoedd hynny." [10]

Personol golygu

Magwyd Artis yn Clinton, Connecticut ac mae'n credydu ei blentyndod a dreuliodd ym mharc talaith Hammonasset Beach ysbrydoli ei ddiddordeb mewn amgylcheddaeth.[11] Aeth Artis i Brifysgol Brown yn 2018, gyda'r bwriad o astudio'r gyfraith. Mae'n aelod o'r frawdoliaeth Zeta Delta Xi.[12] sef brawdoliaeth leol, gyd-addysgiadol ym Mhrifysgol Brown yn Providence, Rhode Island. Mae'n olrhain ei darddiad i 1852 fel rhan o Epsilon y frawdoliaeth genedlaethol i ddynion o'r enw Zeta Psi. Yn 1982, penderfynodd cangen Epsilon dderbyn menywod i'w plith. Arweiniodd hyn at ddatgysylltu'r gangen hon o Zeta Psi ym 1986, a ganwyd Zeta Delta Xi ar 24 Ionawr 1987.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Who We Are". Zero Hour. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-16. Cyrchwyd 20 April 2021.
  2. Marguerite, Christianne (23 Ionawr 2019). "Young Environmentalist Is Inspired By Growing Up On Long Island Sound". The Nature Conservancy. Cyrchwyd 20 April 2021.
  3. Yoon-Hendricks, Alexandra (21 Gorffennaf 2018). "Meet the Teenagers Leading a Climate Change Movement". The New York Times. Cyrchwyd 20 April 2021.
  4. Janfaza, Rachel. "9 Climate Activists of Color You Should Know". Teen Vogue (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 April 2021.
  5. Amyx, Scott (10 Mehefin 2019). "Interview with Zanagee Artis, 19 Year Old Co-Founder of Zero Hour". Scott Amyx. Cyrchwyd 20 April 2021.
  6. Kormann, Carolyn (July 22, 2018). "The Teen-Agers Fighting for Climate Justice". The New Yorker (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 April 2021.
  7. Napoli, James (25 Medi 2020). "'Climate Change Is a Barrier to Our Future'". Rewire (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 April 2021.
  8. "Zanagee Artis". Swearer Center. Brown University. Cyrchwyd 20 April 2021.
  9. Napoli, James (25 Medi 2020). "'Climate Change Is a Barrier to Our Future'". Rewire (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 April 2021.Napoli, James (25 Medi 2020). "'Climate Change Is a Barrier to Our Future'". Rewire. Retrieved 20 April 2021.
  10. Aratani, Lauren (3 Awst 2020). "With big rallies cancelled, young climate activists are adapting election tactics". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 April 2021.
  11. Marguerite, Christianne (23 Ionawr 2019). "Young Environmentalist Is Inspired By Growing Up On Long Island Sound". The Nature Conservancy. Cyrchwyd 20 April 2021.Marguerite, Christianne (23 Ionawr 2019). "Young Environmentalist Is Inspired By Growing Up On Long Island Sound". The Nature Conservancy. Retrieved 20 April 2021.
  12. "Zanagee Artis". Swearer Center. Brown University. Cyrchwyd 20 April 2021."Zanagee Artis". Swearer Center. Brown University. Retrieved 20 April 2021.