Emiliano Zapata

(Ailgyfeiriad o Zapata)

Chwyldroadwr Mecsicanaidd oedd Emiliano Zapata (8 Awst 187910 Ebrill 1919) a oedd yn un o arweinwyr amlycaf Chwyldro Mecsico. Arweiniodd ei fyddin o herwfilwyr, y Zapatistas, yn ei ymgyrch dros agrariaeth a diwygio'r drefn tir yng nghefn gwlad Mecsico.

Emiliano Zapata
Emiliano Zapata yn ei wisg filwrol.
Ganwyd8 Awst 1879 Edit this on Wikidata
Anenecuilco Edit this on Wikidata
Bu farw10 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Morelos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethpartisan, chwyldroadwr, ffermwr Edit this on Wikidata
PriodJosefa Espejo Sánchez Edit this on Wikidata
PlantPaulina Ana María Zapata Portillo Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar (1879–1910) golygu

Ganed Emiliano Zapata Salazar ar 8 Awst 1879 ym mhentref Anenecuilco, Morelos, Mecsico, i deulu o werinwyr mestiso, o dras Sbaenaidd a Nahua mae'n debyg. Buont yn berchen ar dyddyn bach, ac enillodd ei dad arian drwy hyfforddi a gwerthu ceffylau. Bu farw ei dad pan oedd Emiliano yn 17 oed, a bu'n rhaid iddo ofalu am ei frodyr a chwiorydd.

Cafodd ei arestio ym 1897 am wrthdystio'r hacienda a gymerodd feddiant ar diroedd gwerinwyr Anenecuilco. Wedi iddo dderbyn pardwn, parhaodd i gynhyrfu o blaid yr achos amaethol, felly cafodd ei alw i'r fyddin gan yr awdurdodau. Gwasanaethodd yn y fyddin am chwe mis, nes iddo gael ei ryddhau i hyfforddi ceffylau ar gyfer tirfeddiannwr lleol. Etholwyd Zapata yn llywydd ar fwrdd amddiffyn y pentref ym 1909. Methiant a fu'r ymdrech i drafod rhwng y gwerinwyr a'r tirfeddianwyr, felly arweiniodd Zapata griw i feddiannu'r tiroedd a gymerwyd gan y haciendas drwy rym a'u hailddosbarthu.[1]

Chwyldro 1910–11 golygu

 
Francisco Madero yn ninas Cuernavaca ar 12 Mehefin 1911. Gweler Emiliano Zapata, yn gwisgo gwregys trilliw a sombrero enfawr, ar dde'r ffotograff.

Wedi i'r unben Porfirio Díaz ennill yr etholiad arlywyddol ym 1910 drwy dwyll, penderfynodd Zapata a nifer o herwfilwyr gwerinol eraill gefnogi ei wrthwynebydd Francisco Madero. Ym Mawrth 1911 cipiodd Zapata ddinas Cuautla gyda'i fintai fechan a chaeodd y ffordd i Ddinas Mecsico. Wythnos yn ddiweddarach, ymddiswyddodd Díaz a ffoes i Ewrop, gan benodi Francisco León de la Barra yn arlywydd dros dro. A Madero ar fin cipio'r arlywyddiaeth, ymsefydlodd Zapata yn Cuernavaca, prifddinas daleithiol Morelos, gyda 5000 o'i ryfelwyr.[1]

Dychwelodd Madero i Ddinas Mecsico ym Mehefin 1911, ac yno cyfarfu â Zapata. Gofynnodd Zapata iddo bwyso ar yr Arlywydd Léon de la Barra i adfer trefn cytir yr ejido. Gorchmynnodd Madero i Zapata ddadfyddino'i herwfilwyr, ond gwrthodai Zapata pan anfonodd Léon de la Barra y fyddin yn ei erbyn.[1]

Ymgyrchoedd yn erbyn Madero a Huerta (1911–14) golygu

Wedi i Madero ennill yr etholiad arlywyddol yn Nhachwedd 1911, penderfynodd Zapata fod Madero yn ben ar lywodraeth wrthchwyldroadol. Gyda chymorth un o'i swyddogion, yr athro Otilio Montaño, lluniodd Zapata Gynllun Ayala, a ddatganwyd ar 28 Tachwedd. Cytunodd arwyddwyr y ddogfen hon i barhau â'r chwyldro, i benodi arlywydd dros dro arall cyn rhagor o etholiadau, ac i ddychwelyd tir yr ejidos drwy ddifeddiannu traean o'r haciendas. Mabwysiadodd Zapata yr arwyddair "Tierra y Libertad" ("Tir a Rhyddid") ar gyfer ei chwyldro amaethol. Yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn yr haciendas, llosgwyd eiddo'r tirfeddianwyr yn aml heb iawndal, a chafodd rhai eu dienyddio ar orchymyn Zapata. Codwyd gordrethi ar gyfoethogion y dinasoedd i dalu'r gwrthryfelwyr, a chipiwyd eu harfau oddi ar luoedd ffederal.[1]

Wedi i Victoriano Huerta gipio'r arlywyddiaeth a llofruddio Madero yn Chwefror 1913, gorymdeithiodd Zapata a'i fyddin i gyrion Dinas Mecsico, a gwrthododd gynnig i ymgynghreirio â Huerta. Yn sgil buddugoliaeth y Fyddin Gyfansoddiadol, dan arweiniad Venustiano Carranza, ymddiswyddodd Huerta yng Ngorffennaf 1914. Estynodd Zapata ei law i Carranza, gan wahodd y Cyfansoddiadwyr i gytuno i Gynllun Ayala. Galwyd Cynhadledd Aguascalientes gan Carranza yn Hydref 1914, ac yno cytunodd chwyldroadwyr Zapata a Pancho Villa i benodi Eulalio Gutiérrez yn arlywydd dros dro. Gwrthodwyd y penderfyniad hwn gan Carranza, a aeth i Veracruz gyda'i lywodraeth a lluoedd o Carrancistas.

Ymgyrch yn erbyn Carranza (1914–19) golygu

 
Y Cadfridogion Urbina, Villa, a Zapata (ar eu heistedd, o'r chwith i'r dde) yn y Palas Cenedlaethol ar 6 Rhagfyr 1914.

Yn y cyfnod hwn o'r chwyldro, brwydrodd y Cynhadleddwyr (gan gynnwys y Zapatistas) yn erbyn y Carrancistas. Ar 24 Tachwedd 1914, anfonodd Zapata ei luoedd—bellach o'r enw Byddin Rhyddhau'r De—i feddiannu Dinas Mecsico. Daeth rhyw 25,000 o chwyldroadwyr tlawd, ac aethant ati i erfyn bwyd gan y trigolion yn hytrach nac anrheithio'r ddinas. Dwy wythnos yn ddiweddarach, cyfarfu Zapata â Villa ar gyrion y brifddinas ac ymwelasant â'r Palas Cenedlaethol. Cytunodd y ddau i frwydro'n erbyn Carranza ac i gadw at Gynllun Ayala.

Wrth i'r rhyfel yn erbyn y Carrancistas barhau, aeth Zapata ati i gyflwyno diwygiadau amaethol ym Morelos. Sefydlwyd comisiynau amaethol i ailddosbarthu'r tir, a threuliodd Zapata gryn dipyn o'i amser yn goruchwylio'r gwaith hwn. Sefydlwyd hefyd y Banc Benthyciadau Gwledig, y banc cyntaf o'i fath ym Mecsico, i ddarparu credyd i amaethwyr, a cheisiodd Zapata ad-drefnu'r diwydiant siwgr ym Mecsico yn ffermydd cydweithredol.[1]

Cafodd Zapata ragor o fuddugoliaethau ar faes y gad, a llwyddodd i feddiannu Puebla, un o ddinasoedd mwyaf y wlad. Er gwaethaf, cipiodd Carranza yr arlywyddiaeth drwy alw Cynhadledd Gyfansoddiadol Querétaro ym 1916, ac ynyswyd Zapata yn sgil gorchfygiad Villa gan luoedd Carranza ym 1917.

Llofruddiaeth (1919) golygu

Cynllwyniodd y Cadfridog Pablo González, a oedd yn rheoli ymgyrch y llywodraeth yn erbyn y Zapatistas, i ladd Zapata drwy gael y Cyrnol Jesús Guajardo i esgus ymuno â'r achos amaethol. Trefnwyd cudd-gyfarfod rhwng Zapata a Guajardo yn hacienda Chinameca, Morelos, ac yno, ar 10 Ebrill 1919, saethwyd Emiliano Zapata yn farw gan gudd-ymosodwyr o'r Carrancistas. Cludwyd ei gorff i Cuautla i'w gladdu.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Emiliano Zapata. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Chwefror 2021.