Zoë Skoulding

Bardd Cymreig

Mae'r Athro Zoë Skoulding (ganwyd 18 Tachwedd 1967) yn fardd, a'i gwaith yn cynnwys cyfieithu, golygu, perfformiadau sŵn/llais, beirniadaeth lenyddol a dysgu ysgrifennu creadigol. Mae ei gwaith wedi'i gynnwys mewn nifer o antholegau, ac mae wedi ei gyfieithu i 18 o ieithoedd a'i gyflwyno'n eang mewn gwyliau rhyngwladol.

Zoë Skoulding
GanwydTachwedd 1967 Edit this on Wikidata
Bradford Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, ymchwilydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae hi'n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, ble mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ofod trefol, barddoniaeth gyfoes gan ferched a chyfieithu. [1]

Yn 2014 cafodd ei chasgliad The Museum of Disappearing Sound ei enwebu ar restr fer Gwobr Ted Hughes am waith newydd.[2]

Mae hi wedi cymryd ran mewn nifer o brosiectau cyfieithu cydweithiol yn cynnwys Metropoetica,[3] a ganolbwyntiodd ar farddoniaeth y ddinas, ac mae hi wedi cyfieithu cerddi'r bardd Lwcsembwrgeg Jean Portant o'r Ffrangeg.

Mae ei chyd-weithiau yn cynnwys y grŵp Parking Non-Stop a pherfformiadau sŵn/celf/barddoniaeth gydag Alan Holmes.[4]

Roedd yn olygydd y cylchgrawn Poetry Wales[5] rhwng 2008 a 2014 a chanolbwyntiodd ar ffocws rhyngwladol gan gynnwys mwy o waith arbrofol.[6]

Mae hi wedi ysgrifennu geiriau ar gyfer caneuon cerddorion Cymreig Rheinallt H Rowlands a David Wrench, a hefyd bu'n chwarae bâs, ac wedi perfformio gyda The Serpents.

Yn 2018 enillodd wobr Cholmondeley am ei chyfraniad i farddoniaeth gan Gymdeithas yr Awduron, fe'i chyflwynwyd y wobr mewn seremoni yn Llundain gan Stephen Fry. Enillodd ei chyfrol o farddoniaeth Footnotes to Water - y wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yng nghategori barddoniaeth Saesng yn 2020.

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Skoulding yn Bradford, Swydd Efrog yn 1967. Wedi byw yn East Anglia, India a Gwlad Belg, mae Zoë Skoulding yn awr yn byw yng ngogledd Cymru gyda'i gŵr, y cerddor Alan Holmes.

Llyfryddiaeth

golygu

Casgliadau Barddoniaeth

golygu
  • 2022 A Marginal Sea (Carcanet Press)
  • 2020 A Revolutionary Calendar (Shearsman Books)
  • 2020 The Celestial Set-Up (Oystercatcher Press)
  • 2019 Footnotes to Walter (Seren)
  • 2018 Las habitaciones y otros poemas [Cyfieithiad i Sbaeneg - Katherine Hedeen a Victor Rodríguez Núñez] (Fundación Casa de Poesía, Costa Rica)
  • 2016 Teint: For the Bièvre
  • 2013 The Museum of Disappearing Sounds
  • 2008 Remains of a Future City
  • 2008 From Here (gyda Simonetta Moro)
  • 2007 Dark Wires (gydag Ian Davidson)
  • 2004 The Mirror Trade (Seren, 2004)
  • 1998 Tide Table (Gwasg Pantycelyn, 1998)

Cyhoeddiadau eraill

golygu
  • 2020 Poetry & Listening: The Noise of Lyric (Gwasg Prifysgol Lerpwl)
  • 2013 Placing Poetry (golygu gydag Ian Davidson)
  • 2013 Metropoetica - Poetry and urban space: women writing cities gydag Ingmāra Balode, Julia Fiedorczuk, Sanna Karlström, Ana Pepelnik, Sigurbjörg Þrastardóttir, Elżbieta Wójcik-Leese)
  • 2008 Crwydro / Marcheurs Des Bois: A Wales Quebec Ambulation (gyda Daniel Poulin a Simon Whitehead)
  • 2009 You Will Live in Your Own Cathedral (tair-ieithog llyfryn a CD sain gydag Alan Holmes], Richard Hopewell, Monika Rinck, Eva Klimentova, Alexandra Buchler)

Cerddi mewn antholeg

golygu
  • 2015 Out of Everywhere 2: Linguistically Innovative Poetry by Women in North America and the UK, Gol. Emily Critchley
  • 2015 Debajo la Hierba. Arriba la Bóveda del Cielo: Ventanas al Paisaje Británico [Cyfieithiad Sbaeneg] Adriana Díaz Encisco - Mexico: Elefanta Editorial
  • 2015 Nuestra Tierra de Nadie: Poesía Galesa Contemporánea [Cyfieithiad Sbaeneg] Victor Rodriguez Nuñez and Kate Hedeen (Mexico: La Otra,
  • 2012 Best British Poetry 2012 (gol. Sasha Dugdale, Salt).
  • 2011 The Ground Aslant : Radical Landscape Poetry (gol. Harriet Tarlo, Shearsman).
  • 2010 Infinite Difference : Other Poetries by UK Women Poets (gol. Carrie Etter, Shearsman).
  • 2010 Identity Parade (gol. Roddy Lumsden, Bloodaxe).
  • 2008 Women's Work: Modern Women Poets Writing in English (gol. Amy Wack and Eva Salzman, Seren).

Discogaffi

golygu
  • 1996 Rheinallt H RowlandsBukowski
  • 1997 David Wrench – Black Roses
  • 1997 David Wrench – Blow Winds Blow
  • 1997 David Wrench – The Ballad of the Christmas Tree and the Silver Birch
  • 1998 The Serpents – No Mask, No Cloak, Dim Gobaith
  • 1999 The Serpents – You Have Just Been Poisoned by the Serpents
  • 2001 Various artists – Infrasonic Waves
  • 2006 Faust – Faust... in Autumn
  • 2007 Amrywiol – Klangbad Festival 2007
  • 2008 Parking Non-Stop - Species Corridor
  • 2009 Zoë Skoulding - You Will Live in Your Own Cathedral
  • 2010 Parking Non-Stop - Cold Star


Cysylltiau

golygu
Cerddi ar-lein

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2015-08-04.
  2. https://serenbooks.wordpress.com/2014/03/03/zoe-skoulding-shortlisted-for-the-ted-hughes-award-for-new-work/
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-11. Cyrchwyd 2021-02-23.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-19. Cyrchwyd 2021-05-14.
  5. "Zoe Skoulding editor Poetry Wales from 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-27. Cyrchwyd 2015-08-04.
  6. [Malcolm Ballin, Welsh Periodicals in English 1882-2012. Cardiff: University of Wales press, 2013, pp. 129 and 180]