Awdures a chyfieithydd o Hwngari sy'n sgwennu mewn Almaeneg yw Zsuzsanna Gahse (ganwyd 27 Mehefin 1946), sy'n byw yn y Swistir. * Yn 2019, fe'i anrhydeddwyd gydag Uwchwobr Llenyddiaeth y Swistir, am ei gwaith gydol oes.[1].

Zsuzsanna Gahse
Ganwyd27 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethnofelydd, cyfieithydd llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Adelbert von Chamisso, Athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Bamberg, Gwobr Johann Heinrich Voss i Gyfieithwyr, Gwobr Llenyddiaeth Aspekte, Gwobr lenyddol y Swistir, Dresdner Chamisso-Poetikdozentur, Gwobr Italo-Svevo, Gwobr Werner-Bergengruen, Gwobr Lenyddiaeth Bodensee, Q105870591 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.zsuzsannagahse.ch Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Budapest ar 27 Mehefin 1946.[2][3][4][5]

Hwngariaid oedd ei rhieni, a Hwngareg yw ei mamiaith. Yn dilyn Chwyldro 1956, ffodd ei theulu i'r Gorllewin, gan ymsefydlu yn Fienna, bler aeth i'r ysgol uwchradd, a dysgu'r Almaeneg. Dechreuodd gyhoeddi gweithiau llenyddol ym 1969, ac o 1978 dechreuodd gyfieithu rhai o glasuron yr Hwngareg i'r Almaeneg, oherwydd dylanwad ei mentor, Helmut Heißenbüttel. Ymhlith y cyfieithiadau hyn mae: István Eörsi, Péter Esterházy, Péter Nádas a Zsuzsa Rakovszky, ac amrywiaeth eang o ysgrifau a gwaith ffeithiol ei hun. Rhwng 1989 a 1993 bu'n darlithio ym Mhrifysgol Tübingen. Yn 1996, fe'i penodwyd i Adran Llenyddiaeth Prifysgol Bamberg.

Aelodaeth

golygu

Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen, Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

golygu
  • Yn 2019, fe'i anrhydeddwyd gydag Uwchwobr Llenyddiaeth y Swistir, am ei gwaith gydol oes.[1].
  • 1983 Aspekte-Literaturpreis
  • 1990 Literaturpreis der Stadt Stuttgart
  • 1993 Gwobr Dinas Zug
  • 1999 Tibor-Déry-Preis
  • 2004 Bodensee-Literaturpreis
  • 2006 Gwobr Adelbert von Chamisso
  • 2009 Chamisso-Poetikdozentur
  • 2010 Johann-Heinrich-Voß-Preis für Übersetzung
  • 2010 Gwobr Diwylliannol Kanton Thurgau
  • 2011 Aelod o Deutsche Akademie für Sprache und Dichtung, Darmstadt
  • 2017 Italo-Svevo-Preis
  • Yn 2019, fe'i anrhydeddwyd gydag Uwchwobr Llenyddiaeth y Swistir, am ei gwaith gydol oes.[1].

Gwaith

golygu
  • Zero. Munich, 1983
  • Berganza. Munich, 1984
  • Abendgesellschaft. Munich, 1986
  • Liedrige Stücke. Warmbronn, 1987
  • Stadt, Land, Fluß. Munich, 1988
  • Einfach eben Edenkoben. Klagenfurt, 1990
  • Hundertundein Stilleben. Klagenfurt, 1991
  • Nachtarbeit. Warmbronn, 1991
  • Essig und Öl. Hamburg, 1992
  • Übersetzt. Berlin, 1993 (gyda Renate von Mangoldt)
  • Laune. Stuttgart, 1993
  • Passepartout. Klagenfurt, 1994
  • Kellnerroman. Hamburg, 1996
  • Wie geht es dem Text? Hamburg, 1997
  • Calgary. Warmbronn, 1999
  • Nichts ist wie oder Rosa kehrt nicht zurück. Hamburg, 1999
  • Wörter, Wörter, Wörter! Göttingen, 1999 (gyda Stefana Sabin a Valentin Braitenberg)
  • Kaktus haben. Alpnach Dorf, 2000 (gyda Christoph Rütimann)
  • durch und durch. Fiena, 2004
  • Instabile Texte. Fiena, 2005[6]
  • Oh, Roman. Fiena, 2007
  • Erzählinseln. Reden für Dresden. Dresden, 2009
  • Donauwürfel. Fiena, 2010
  • Das Nichts in Venedig. Alpnach Dorf, 2010
  • Südsudelbuch. Fiena, 2012
  • Die Erbschaft. Fiena, 2013

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 swissinfo.ch (17 Ionawr 2019). "Hungarian-born author wins top Swiss literary award". SWI swissinfo.ch.
  2. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad geni: Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Wikidata Q459620, https://www.deutscheakademie.de/, adalwyd 5 Awst 2019
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  6. Excerpt from "Volatile Texts"