Zuiderzee

(Ailgyfeiriad o Zuider Zee)

Bae o Fôr y Gogledd yn yr Iseldiroedd oedd y Zuiderzee. Rhannwyd ef yn ddau pan adeiladwyd yr Afsluitdijk, a orffennwyd yn 1932. Galwyd y rhan tu mewn i'r Afsluitdijk yn IJsselmeer, tra mae'r rhan allanol yn rhan o'r Waddenzee.

Map o'r Iseldiroedd gan Johannes Janssonius (1658) yn dangos De Zuydir Zee

Dim ond tua hanner maint y Zuiderzee gwereiddiol yw'r IJsselmeer; mae'r gweddill wedi ei droi yn dir sych, y polder. Yn 1976, adeiladwyd yr Houtribdijk ar draws yr IJsselmeer, ac ail-enwyd y rhan i'r de-orllewin o hwn y Markermeer.

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd yr ardal yma yn lynnoedd a elwid y Lacus Flevo. Bu llifogydd mawr yn 838, ac eto yn y 12fed a'r 13g, a dim ond yr adeg honno yn daeth y Zuider Zee i fodolaeth fel môr. Daeth rhai o'r trefi ar ei lan, megis Kampen a Harderwijk yn borthladdoedd pwysig, ac roedd diwydiant pysgota sylweddol yma,

Datblygwyd cynllun i amgau a sychu'r Zuiderzee gan Cornelis Lely yn 1891, ac aeth y gwaith ymlaen dros gyfnod hir, gan ddechrau gydag adeiladu'r Amsteldiepdijk rhwng talaith Noord-Holland ac ynys Wieringen yn 1920. Wedi adeiladu'r Afsluitdijk, crewyd talaith Flevoland o'r tir sych newydd a grewyd, ac enwyd ei phrifddinas yn Lelystad.