Llanrhydd

pentref yn Sir Ddinbych

Ardal a phentrefan yng nghymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, Cymru yw Llanrhydd (neu'n fwy cywir: Llanrhudd) ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sydd 112.7 milltir (181.4 km) o Gaerdydd a 173.3 milltir (278.9 km) o Lundain. Mae'r 'rhudd' yma'n cyfeirio at liw coch y tywodfaen lleol, yr un 'rhudd' sydd yn yr enw 'Rhuthun' ('rhudd' + 'din'), sef enw'r dref agosaf. Saif Eglwys Sant Meugan yn Llanrhudd, eglwys Gradd I*, lle cedwir creiriau John and Jane Thelwall o Fathafarn.

Llanrhydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2°N 3.3°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1400257761 Edit this on Wikidata
Map

Cynrychiolir Llanrhydd yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Y Blaid Geidwadol) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Y Blaid Geidwadol).[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato