Øresund
Yr Øresund (Swedeg: Öresund) yw'r culfor syn gwahanu ynys Sjælland, Denmarc, oddi wrth Sweden, ac yn cysylltu'r Kattegat a Môr y Baltig. Yn ei fan gulaf, mae'n 4.5 km o led, ac mae'n un o'r llwybrau trafnidiaeth prysuraf yn y byd.
Math | culfor |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Danish straits |
Gwlad | Sweden, Denmarc |
Yn ffinio gyda | Y Môr Baltig, Kattegat |
Cyfesurynnau | 55.75°N 12.75°E |
Ger y rhan gulaf, ceir dau gastell gyferbyn a'i gilydd, Helsingør, (Castell Kronborg) ar y lan Ddanaidd a Helsingborg ar y lan Swedaidd. Ers 1 Gorffennaf 2000, mae Pont Øresund yn coesi'r culfor.