Ōkami
Gêm fideo antur ar gyfer y PS2 a'r Wii yw Ōkami (大神 yn Siapaneg; golygir 'duw mawr' neu 'ysbryd mawr'; yn seinegol golygir 'blaidd' (狼)). Mae wedi ei gosod rhywbryd yn ystod hanes clasurol Siapan ac mae'r gêm yn cyfuno elfennau o chwedlau a llên gwerin Siapanëaidd er mwyn cyfleu stori am achub y wlad rhag dywyllwch. Y prif gymeriad yw Amaterasu; duwies yr Haul yng nghrefydd Shinto Siapan, sydd yn cymryd ffurf fleiddiast wen.
Enghraifft o'r canlynol | gêm fideo |
---|---|
Cyhoeddwr | Capcom |
Iaith | Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Japaneg, Sbaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 20 Ebrill 2006, 19 Medi 2006, 9 Chwefror 2007, 14 Chwefror 2007, 15 Ebrill 2008, 12 Mehefin 2008, 13 Mehefin 2008, 15 Hydref 2009 |
Genre | gêm antur ac ymladd |
Olynwyd gan | Ōkamiden |
Lleoliad y gwaith | Japan |
Cyfarwyddwr | Hideki Kamiya |
Cynhyrchydd/wyr | Atsushi Inaba |
Cyfansoddwr | Akari Kaida |
Gwefan | https://www.okami-game.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Gêm
golyguYn Ōkami mae'r chwaraewr yn rheoli'r fleiddiast Amaterasu. Mae'r prif stori yn linellol ond gyda sawl cwest opsiynol trwyddi; er enghraifft cewch fwydo anifeiliaid gwylltion ac adfywio coed meirw gan ddefnyddio brws wybrennol. Mae gan y brws hwn sawl bwrpas yn y gêm: creu gwynt; galw'r haul i dywynnu; torri coed a chreigiau; rheoli dŵr, tân, mellt a rhew; arafu amser ayyb. Gellir caffael y technegau brws trwy gwblhau cytserau a ysbrydolwyd gan y Sidydd Tsieineaidd.
Cymeriadau
golygu- Amaterasu (天照) neu Ammy - Prif gymeriad Ōkami. Hi yw duwies yr haul wedi'i hymgnawdoli ar ffurf fleiddiast wen.
- Shiranui (白野威) - Ymgnawdoliad blaenorol Amaterasu, hefyd ar ffurf fleiddiast, can mlynedd cyn ddechrau stori'r gêm.
- Waka (ウシワカ) - Proffwyd sydd yn ymyrryd â chwestau Amaterasu.
- Issun (一寸) - Artist a chydymaith i Amaterasu sydd â diddordeb mewn casglu technegau'r brws wybrennol.
- Orochi (大蛇) - Sarff ag wyth pen sydd yn un o'r brif elynion yn Ōkami.
Dilyniant
golyguCafodd ail gêm yng nghyfres Ōkami o'r enw Ōkamiden ei ddatblygu gan Mobile & Game Studio, Inc. a cyhoeddi gan Capcom i'r Nintendo DS yn Ewrop yn 2011.