344 CC
blwyddyn
5g CC - 4g CC - 3g CC
390au CC 380au CC 370au CC 360au CC 350au CC - 340au CC - 330au CC 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC
349 CC 348 CC 347 CC 346 CC 345 CC - 344 CC - 343 CC 342 CC 341 CC 340 CC 339 CC
Digwyddiadau
golygu- Y gwladweinydd Athenaidd, Demosthenes, yn teithio i'r Peloponnesos i geisio gwrthweithio dylanwad Macedonia. Nid yw'n cael llawer o lwyddiant, gan fod llawer o ddinasoedd y Peloponnesos yn ffafrio Philip II, brenin Macedon dros Athen. Mae Demosthenes yn traddodi ei Ail Philipig, ymosodiad chwerw ar Philip.
- Uchelwyr dinas Siracusa ar ynys Sicilia yn apelio at y fam-ddinas, Corinth, yn erbyn eu tyrannos Dionysius II. Mae'r cadfridog Corinthaidd Timoleon yn glanio yn Tauromenium (Taormina), yn gorchfygu Dionysius a'i gyngheiriad Hicetas, a gyrru Dionysius i alltudiaeth.