Antony Carr

Hanesydd ac academydd o Gymro
(Ailgyfeiriad o A.D. Carr)

Hanesydd o Gymru oedd Antony D. Carr (6 Chwefror 193830 Ebrill 2019).[1][2] Roedd yn arbenigo ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Antony Carr
GanwydAntony David Carr Edit this on Wikidata
6 Chwefror 1938 Edit this on Wikidata
Dover Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 2019 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodGlenda Carr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr Edit this on Wikidata

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ynysoedd y Falklands ac ar ôl hynny ym Mauritius. Cafodd ei fagu ym Mhorthaethwy a mynychodd Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.[3] Graddiodd gyda gradd BA Hanes ym 1959. Ym 1963 cafodd ei radd MA am astudiaeth o uchelwyr Edeirnion rhwng 1282 a 1485. Enillodd PhD ym 1976 am ei draethawd ar deulu'r Mostyn a'u hystadau yng Ngogledd Cymru rhwng 1200 a 1642.

Pan oedd yn 18, enillodd Carr y rhaglen gwis radio'r BBC 'Brain of Britain' ym 1956, ac ef oedd enillydd ieuengaf erioed y gystadleuaeth hon. Yn 24 oed, aeth ymlaen i ennill teitl 'Top Brain of Britain', cystadleuaeth rhwng enillwyr yr ornest dros y blynyddoedd. Roedd yn gweithio mewn archifdy yn Essex ar y pryd.

Ym 1964 ymunodd â staff Adran Hanes a Hanes Cymru CPGC Bangor lle daeth yn uwch ddarlithydd Hanes Cymru yn nes ymlaen ac yna yn Athro Hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Ymddeolodd yn 2002 a daeth yn Athro Emeritws yn Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Bangor.

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â'r hanesydd llên Glenda Carr ac roedd ganddynt ddau o blant, Richard a Gwenllïan.[4] Yn dilyn ei angladd roedd gwasanaeth cyhoeddus iddo yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar ddydd Sadwrn 11 Mai am 2 o'r gloch y prynhawn.

Llyfryddiaeth

golygu

Yn ogystal â nifer o erthyglau ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol mewn cylchgronau hanes, mae'n awdur :

  • Llywelyn ap Gruffudd (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
  • Medieval Anglesey (Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn, Llangefni, 1982). Hanes safonol Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol.
  • Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Y llyfr safonol ar hanes bywyd Owain Lawgoch.
  • Medieval Wales, Macmillan (1995)
  • Gwilym ap Gruffydd and the rise of the Penrhyn estate, Cylchgrawn Hanes Cymru xv (1990), 1–27
  • 'Wales' yn C.T. Allmand, gol., The New Cambridge Medieval History VII, c 1415-c. 1500, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 532–46 (1998)
  • 'This my act and deed: the writing of private acts in late medieval north Wales' yn Huw Pryce, gol., Literacy in Medieval Celtic Societies, Gwasg Prifysgol Caergrawnt (1998)
  • Medieval Anglesey (ail argraffiad), Cymdeithas Hynafiaethwyr Môn (2011)
  • The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages, Gwasg Prifysgol Cymru (2017)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yr academydd yr Athro Antony Carr wedi marw yn 81 oed , BBC Cymru Fyw, 1 Mai 2019.
  2.  CARR - Antony David (Athro Emeritws Hanes Cymru). Daily Post (4 Mai 2019). Adalwyd ar 5 Mai 2019.
  3. Marw’r Athro Antony Carr – hanesydd a chyn ‘Brain of Britain’ , Golwg360, 1 Mai 2019. Cyrchwyd ar 5 Mai 2019.
  4. Pryce, Huw (2020-06-01). "Obituary: Antony David ('Tony') Carr, 1938–2019" (yn en). The Welsh History Review / Cylchgrawn Hanes Cymru 30 (1): 121–125. doi:10.16922/whr.30.1.7. ISSN 0083-792X. https://www.ingentaconnect.com/content/10.16922/whr.30.1.7.