AUOB Cymru
Mae Pawb Dan Un Faner Cymru, neu, gan amlaf dan ei thalfyriad Saesneg, AUOB Cymru (sef All Under One Banner Cymru), yn fudiad sy’n hybu annibyniaeth i Gymru. Cafodd y mudiad ei hysbrydoli gan All Under One Banner yn yr Alban gan gadw'r un enw er mwyn magu perthynas a chydweithio rhwng y gwledydd. Cynhaliwyd eu gorymdaith gyntaf ar y cyd gydag YesCymru yng Nghaerdydd ar 11 Mai 2019, gan ddenu miloedd o gyfranogwyr.[1][2][3]
Math | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Sefydlwyd | 2019 |
Gwefan | https://www.auob.cymru/ |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Idioleg | Annibyniaeth i Gymru |
Dechrau/Sefydlu | 2019 |
Rhanbarth | Cymru |
Gwefan | https://www.auob.cymru/ |
Sefydlydd a phrif lefarydd y mudiad yw Llywelyn ap Gwilym.
Cenhadaeth
golyguMae'r mudiad yn un amhleidiol a thrawsbleidiol. Nid yw'n sefyll mewn etholiadau. Yn ôl gwefan y mudiad, dywed AUOB Cymru: "Rydyn ni eisiau gweld Cymru well, dyna pam rydyn ni'n ymladd dros annibyniaeth. I bawb. Os ydych chi'n credu yn yr un pethau, ymunwch â ni yn ein gorymdeithiau pawb dan un faner. Mae dewis arall. Rydyn ni'n grŵp annibyniaeth DIY. Credwn fod gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Credwn fod gan bawb ran i’w chwarae."[4] Mae'r wefan yn cynnig ffyrdd 'DIY' o drefnu dros annibyniaeth gan gynnwys: gwneud baner, trefnu gorymdaith, gwneud taflen.[5]
Gorymdeithiau
golyguCynhaliwyd gorymdeithiau a gorymdeithiau cychwynnol gyda chefnogaeth ac yn aml dan faner, YesCymru yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful ym mis Mai 2019. [6] Wedi hoe oherwydd Covid-19 cynhaliwyd gorymdaith yn Wrecsam yn 2022.[7]
Bu'n rhaid canslo gorymdeithiau dilynol a drefnwyd ar gyfer 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[8][9]
Cynhaliwyd gorymdaith gyntaf 2022 yn Wrecsam ar 2 Gorffennaf gyda gorymdaith Caerdydd yn cael ei chynnal ar 1 Hydref.[10]
Gweler hefyd
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Russell, Greg (8 May 2019). "'Tide is turning' in Welsh indy movement as AUOB holds first march". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mai 2019.
- ↑ "Huge crowds join Welsh independence rally". BBC News. 11 May 2019. Cyrchwyd 11 Mai 2019.
- ↑ Busby, Mattha (11 May 2019). "Thousands march in Cardiff calling for Welsh independence". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mai 2019.
- ↑ "AUOB Cymru". Gwefan AUOB Cymru. Cyrchwyd 16 Medi 2022.
- ↑ "Annibyniaeth DIY". Gwefan AUOB Cymru. Cyrchwyd 16 Medi 2022.
- ↑ "Top 5 moments for YesCymru as the movement celebrates its fifth birthday". Nation.Cymru. 23 Chwefror 2021.
- ↑ "5,000 yn gorymdeithio dros annibyniaeth yn Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 4 Gorffennaf 2022.
- ↑ "Next independence march postponed due to coronavirus". Nation.Cymru. 13 Mawrth 2020.
- ↑ Jones, Elfed (26 Chwefror 2021). "Can Wales be Independent?". Herald.Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.
- ↑ Griffiths, Siriol (12 Chwefror 2022). "Two AUOBCymru marches for Welsh independence announced for 2022". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-20. Cyrchwyd 11 Mai 2022.