Melin Drafod (corff)

Melin drafod dros annibyniaeth i Gymru

Corff sy'n ymgyrchu dros "annibyniaeth flaengar" i Gymru yw Melin Drafod. Fe'i sefydlwyd yn 2021 gan Colin Nosworthy.[1] Mae'r term melin drafod yn gynnig ar y term "think tank" yn y Saesneg.[2] Bwriad Melin Drafod felly yw bod yn "think tank" i'r mudiad dros annibyniaeth i Gymru.[3]

Melin Drafod
Enghraifft o'r canlynolmelin drafod Edit this on Wikidata
IdiolegAnnibyniaeth i Gymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2021 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://melindrafod.cymru Edit this on Wikidata
Uwchgynhadledd Annibyniaeth a drefnwyd gan Melin Drafod Neuadd y Ddinas, Abertawe, 2023

Amcanion golygu

Sefydlwyd Melin Drafod er mwyn "cefnogi, hwyluso a bod yn gyfaill beirniadol i’r mudiad annibyniaeth ar lawr gwlad". Nid yw'n perthyn i’r un blaid wleidyddol ac mae'n gweithredu’n drawsbleidiol ac yn drawsfudiadol. Mae'n canolbwyntio ar roi sylw manwl i’r cwestiynau sy’n codi yn sgîl y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth.

Bu sawl un o'r sefydlwyr ac aelodau Pwyllgor Gwaith yn aelodau blaenllaw o YesCymru, Plaid Cymru, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac AUOB Cymru.

Bwirad y corff yw "hwyluso annibyniaeth flaengar, nid annibyniaeth er lles annibyniaeth yn unig". Mae'n trin a thrafod datrysiadau i argyfyngau mawr o newid hinsawdd a lleiafrifoli ieithoedd, tlodi a hiliaeth yng Nghymru ac yn ryngwladol.

Mae'r Melin Drafod o'r farn bod angen paratoi drylwyr ar gyfer Cymru annibynnol gan y bydd, yn eu tŷb hwy, yn gwestiwn yn wynebu Cymru’n hwyr neu’n hwyrach.[3]

Gweithgaredd golygu

Mae'r Melin Darfod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus megis cynadleddau, sgyrsiau ar-lein a chyhoeddi papurau. Mae hefyd yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymsyg ei digwyddiadau cyhoeddus bu Uwchgynhadledd Fawr Annibyniaeth a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Ionawr 2023 oedd yn cynnwys siaradwyr megis Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru ar y pryd), Anthony Slaughter (Arweinydd Plaid Werdd yng Nghymru, Rachel Garrick o'r Blaid Lafur a Robin McAlpine o felin drafod annibyniaethol, Common Weal yn yr Alban.[4][5]

Cyhoeddiadau golygu

Mae cyhoeddiadau'r Melin Drafod yn cynnwys:

  • Gwireddu’r Gymru Annibynnol – Cyllid: Papur trafod am sefyllfa gyllidol Cymru [6]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Uwchgynhadledd Annibyniaeth y Melin Drafod. TX 2/1/23 Cyfres 4 Pen 13 (yn Gymraeg)". Radio YesCymru. 2023.
  2. "Think tank". Termau Cymru. Cyrchwyd 15 Mai 2023.
  3. 3.0 3.1 "Amdanom". Gwefan Melin Drafod. Cyrchwyd 15 Mai 2023.
  4. "Uwch Gynhadledd Fawr Annibyniaeth". Gwefan Melin Drafod. Cyrchwyd 15 Mai 2023.
  5. "Tocynnau cynhadledd fawr annibyniaeth yn Abertawe wedi'u gwerthu". Golwg360. Cyrchwyd 15 Mai 2023.
  6. "Gwireddu'r Gymru Annibynnol – Cyllid: Papur trafod am sefyllfa gyllidol Cymru" (PDF). Gwefan Melin Drafod. 2023.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.