A Chwaraei di Wyddbwyll?
Gwyddbwyll
Llyfr Cymraeg am wyddbwyll a sut i'w chwarae gan Iolo Jones a T. Llew Jones yw A Chwaraei di Wyddbwyll?. Mae ganddo'r is-deitl Y llyfr cyntaf erioed yn y Gymraeg yn ymwneud â'r gêm fwrdd orau yn y byd!. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1980. Yn 2021 roedd y gyfrol allan o brint.
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Awdur | Iolo Jones a T. Llew Jones |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1980 |
Dyddiad cyhoeddi | 1980 |
Pwnc | Gwyddbwyll |
Argaeledd | allan o brint |
Tudalennau | 132 |
Genre | Llyfr ffeithiol |
Prif bwnc | gwyddbwyll |
Mae'r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i'r gêm, yn egluro sut mae'r darnau'n symud, sut i gofnodi'r symudiadau, syniadau tactegol, agoriadau, terfyniadau, a manylion ymarferol am offer, ynghyd ag ychydig o fanylion am hanes y gêm. Mae'n defnyddio nodiant disgrifiadol i gofnodi'r symudiadau; mae'r nodiant hwn i bob pwrpas wedi darfod bellach, ar ôl cael ei ddisodli gan nodiant algebraidd.