Nodiant algebraidd (gwyddbwyll)

Dull o gofnodi a disgrifio'r symudiadau mewn gêmau gwyddbwyll yw nodiant algebraidd. Mae'n cael ei ddefnyddio erbyn hyn gan sefydliadau a chyrff gwyddbwyll ar draws y byd, ac mewn papurau newydd, cylchgronau a llyfrau. Mae nodiant algebraidd Cymraeg yn cael ei gydnabod yn swyddogol gan FIDE, Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd.

abcdefgh
8
a8 black rook
b8 black knight
c8 black bishop
d8 black queen
e8 black king
f8 black bishop
g8 black knight
h8 black rook
a7 black pawn
b7 black pawn
c7 black pawn
d7 black pawn
e7 black pawn
f7 black pawn
g7 black pawn
h7 black pawn
a2 white pawn
b2 white pawn
c2 white pawn
d2 white pawn
e2 white pawn
f2 white pawn
g2 white pawn
h2 white pawn
a1 white rook
b1 white knight
c1 white bishop
d1 white queen
e1 white king
f1 white bishop
g1 white knight
h1 white rook
8
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Bwrdd Gwyddbwyll llawn yn dangos llythrennau i gynrychioli'r ffeiliau a rhifau i gynrychioli'r rhengoedd.

Enwi'r sgwariau golygu

Mae cyfesuryn unigryw gan bob sgwâr sy'n cynnwys llythyren a rhif.

Rhoddir label llythyren sy'n rhedeg o a i h i bob colofn fertigol (sy'n cael eu galw'n ffeil mewn gwyddbwyll) yn cychwyn gydag a ar ochr chwith Gwyn (ochr y Frenhines), ac yn gorffen gydag h ar ochr dde Gwyn (ochr y Brenin). Nid yw'r wyddor Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn nodiant algebraidd hyd yn oed pan yn cofnodi gêm yn y Gymraeg, a defnyddir yr wyddor Saesneg gan chwaraewyr gwyddbwyll ar draws y byd.

Rhoddir label rhif o 1 i 8 i bob rhes lorweddol (sy'n cael eu galw'n rheng mewn gwyddbwyll) yn cychwyn gydag 1 ar ochr Gwyn a gorffen gydag 8 ar ochr Du.

Mae modd adnabod pob sgwâr unigol felly o ddefnyddio cyfesuryn sy'n cynnwys llythyren a rhif. Mae'r Brenin du, er enghraifft, yn dechrau'r gêm ar y sgwâr golau e8.

Enwi'r darnau golygu

Gellir adnabod pob math o ddarn heblaw am y Gwerinwr drwy ddefnyddio priflythyren. Defnyddir llythyren gyntaf enw'r darn ble mae hynny'n bosibl. Mewn nodiant algebraidd Cymraeg defnyddir T am y Brenin, B am y Frenhines, C am y Castell, E am yr Esgob, ac M am y Marchog. Defnyddir T o'r gair teyrn am y Brenin gan fod B yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Brenhines.

Mae ieithoedd eraill yn defnyddio llythrennau gwahanol, er enghraifft mae chwaraewyr sy'n siarad Ffrangeg yn defnyddio F am Esgob (o'r gair fou), chwaraewyr sy'n siarad Catalaneg yn defnyddio A am Esgob (o'r gair alfil), a chwaraewyr sy'n siarad Saesneg yn defnyddio B am Esgob (o'r gair bishop). Os yw llyfr neu erthygl papur newydd wedi'i anelu at gynulleidfa ryngwladol defnyddir symbolau, ee ♞ am y Marchog.

Does dim priflythyren yn cael ei defnyddio ar gyfer y Gwerinwr, dim ond cyfesurun y sgwâr. Does dim angen gwahaniaethu rhwng Gwerinwyr gan mai dim ond un Gwerinwr all symud i sgwâr penodol.

Nodiant symud darnau golygu

I gofnodi symud darn defnyddir priflythyren y darn a chyfesurun y sgwâr ble mae'n glanio. Er enghraifft, Ee5 i gofnodi symud yr Esgob i sgwâr e5, Mf3 i gofnodi symud y Marchog i sgwâr f3, c5 i gofnodi symud Gwerinwr i sgwâr c5. Os yn defnyddio symbolau mae symud y Marchog i f3 yn cael ei gofnodi fel ♞f3.

Nodiant cipio golygu

Pan fod darn yn cael ei gipio rhoddir 'x' o flaen y sgwâr ble mae'r darn sy'n cipio'n glanio. Er enghraifft, os yw Esgob yn cipio'r darn ar e5 cofnodir hyn fel Exe5. Os yw Gwerinwr yn cipio defnyddir y ffeil mae'r Gwerinwr yn gadael, er enghraifft, i gofnodi Gwerinwr ar ffeil e yn cipio'r darn ar sgwâr d5 defnyddir exd5.

Gwahaniaethu rhwng darnau golygu

Pan fod mwy nag un darn tebyg yn medru symud i'r un sgwâr mae modd dangos pa ddarn sy'n symud drwy gofnodi un o'r canlynol, yn nhrefn blaenoriaeth:

  1. Y ffeil mae'r darn yn gadael: er enghraifft, os oes Marchogion ar sgwariau g1 a d2 gall y naill neu'r llall symud i sgwâr f3. Os yw'r Marchog ar g1 yn symud i f3 defnyddir Mgf3 i gofnodi hyn, ac os yw'r Marchog ar d2 yn symud i f3 defnyddir Mdf3 i gofnodi hyn.
  2. Y rheng mae'r darn yn gadael os yw'r ffeiliau yr un peth: er enghraifft, os oes Cestyll ar yr un ffeil ar sgwariau e1 ac e7 gall y naill neu'r llall symud i sgwâr e3. Os yw'r Castell ar e1 yn symud i e3 defnyddir C1e3 i gofnodi hyn, ac os yw'r Castell ar e7 yn symud i e3 defnyddir C7e3 i gofnodi hyn.

Dyrchafu Gwerinwr golygu

Pan fod Gwerinwr yn cyrraedd y rheng olaf mae'n cael ei ddyrchafu'n ddarn, a rhoddir llythyren i gynrychioli'r darn ar ôl cyfesuryn y sgwâr. Er enghraifft pan fod Gwerinwr yn symud i sgwâr e8 ac yn cael ei ddyrchafu'n Frenhines defnyddir e8B i gofnodi hyn. Gellir hefyd rhoi hafalnod rhwng cyfesuryn y sgwâr a llythyren y darn, er enghraifft e8=B.

Castellu golygu

Pan fod chwaraewr yn castellu cofnodir hynny drwy ddefnyddio O-O (castellu ochr y Brenin) a O-O-O (castellu ochr y Frenhines).

Siach a siachmat golygu

Os yw symudiad yn gosod Brenin y gwrthwynebydd mewn siach ychwanegir "+" ar ei ôl, er enghraifft i ddangos symudiad ble mae Esgob yn symud i b5 i roi'r Brenin mewn siach defnyddir Eb5+. I ddangos siachmat defnyddir y symbol "#" (neu weithiau "++"). Er enghraifft, i ddangos symudiad ble mae Brenhines yn symud i d8 i roi Brenin y gwrthwynebydd mewn siachmat defnyddir Bd8#.

Canlyniad y gêm golygu

Mae 1–0 ar ôl y symudiadau yn dangos fod Gwyn wedi ennill, 0–1 yn dangos fod Du wedi ennill, a ½–½ yn dangos gêm gyfartal.

Ffynonellau golygu