Iolo Ceredig Jones

chwaraewr gwyddbwyll o Gymru

Cyn-chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Cymreig oedd Iolo Ceredig Jones (ganwyd 2 Awst 19476 Medi 2021).[1][2] Ef yw cyd-awdur yr unig lawlyfr gwyddbwyll yn y Gymraeg, A Chwaraei di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980), a ysgrifennodd gyda'i dad, T. Llew Jones.

Iolo Ceredig Jones
Ganwyd2 Awst 1947 Edit this on Wikidata
Llandysul, Coed-y-bryn Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadT. Llew Jones Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cystadlodd Jones mewn 16 Olympiad Gwyddbwyll, gan chwarae mewn 14 yn olynol rhwng 1972 ac 1998. Enillodd y fedal aur am ei berfformiad yn Olympiad Novi Sad, Yugoslavia, ym 1990. Bu hefyd yn gyd-bencampwr Cymru ym 1982-3. Yn 2013 derbyniodd y teitl Meistr FIDE (FM) sydd fel arfer yn cael ei roi gan FIDE i chwaraewyr sy'n ennill gradd ELO o 2300 neu fwy.

Mae hefyd yn frawd i'r ymgyrchydd gwleidyddol, Emyr Llewelyn.

Cyfeiriadau golygu