Emir a swltan o Algeriad o dras Berberaidd, diwinydd Swffi, gwleidydd ac arweinydd y gwrthsafiad yn erbyn gwladychiad Algeria gan Ffrainc, llenor ac athronydd, a ystyrir yn arwr cenedlaethol yn ei wlad enedigol oedd Abd El-Kader neu Abdelkader (Arabeg: عبد القادر الجزائري 'Abd al-Qādir al-Djazā'irī, Abd el-Kader Algeriad) (ganed 6 Medi 1808 ger Mascara yn Algeria - bu farw 26 Mai 1883 yn Damascus, Syria).

Abd El-Kader
Ganwydعبدالقادر Edit this on Wikidata
6 Medi 1808 Edit this on Wikidata
Guittena Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Damascus Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, milwr, mujahid, gwyddonydd, gwrthryfelwr milwrol, bardd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddemir Edit this on Wikidata
PerthnasauRazzaq Abd Al-Qadr, Muhammad Said al-Jazairi, Khaled el-Hassani ben el-Hachemi Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd yr Eryr Du, Urdd y Gwaredwr, Urdd Pïws IX Edit this on Wikidata

Ar ôl goresgyniad dinas Alger (Algiers) gan luoedd Ffrainc, etholwyd Abd El-Kader yn emir i'w harwain gan lwythau Berber ardal Oran, yng ngogledd-orllewin Algeria. Gyda dyfalbarhad a dawn filwrol anghyffredin, arweiniodd yr Algeriaid mewn rhyfel herfilwrol hir yn erbyn byddin Ffrainc, a barhaodd o 1832 hyd 1847. Yn 1834 gorfododd y Cadfridog Ffrengig Desmichels i arwyddo cytundeb yn ei gydnabod fel arweinydd ac ym Mehefin 1835, enillodd fuddugoliaeth fawr ar y fyddin Ffrengig ym mrwydr Makta.

Ond tyfodd nerth y Ffrancod yn Algeria a bu rhaid i Abd El-Kader ffoi i'r gorllewin a chael noddfa ym Moroco. Oddi yno dechreuodd ymladd rhyfel jihad yn erbyn y Ffrancod yn enw Islam. Ildiodd i'r Ffrancod yn 1847 a chafodd ei anfon i Ffrainc lle y'i dalwyd fel carcharor hyd 1852 pan gafodd ei ryddhau ar orchymyn yr ymerodr newydd, Louis Napoleon. Cafodd ei alltudio i Bursa (Twrci) ac oddi yno symudodd i ddinas Damascus yn Syria lle bu farw yn 1883.

Fel llenor ac athronydd, fe'i cofir yn bennaf am ei hunangofiant cyfriniol y Qitab al-Mawaqif ('Llyfr yr Arosfeydd').

Cerdd Gymraeg iddo

golygu

Abd El-Kader yw un o'r ychydig ffigyrau Arabaidd ac Islamig sydd wedi ysbrydoli bardd Cymraeg. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) (1761-1849) gyfres o englynion iddo sy'n ei foli fel arweinydd y frwydr am ryddid cenedlaethol yn Algeria. Dyma'r ddau englyn agoriadol:

Codwm i Abd-el-Cader—bwriedir,
Mewn brad a chreulonder;
Ond mab Ismael, hael o'i her,
I fyny deil ei faner!
Ai'n deilwng i hudolion—anonest,
Dan enw Cristnogion,
Rheibio gwlad (brad ymhob bron)
Y dewr a'r hen frodorion?[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwallter Mechain, 'Abd-el-Cader', Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1, gol. D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1868).