Abercannaid

pentref ym Merthyr Tudful

Pentref yng nghymuned Troed-y-rhiw, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Abercannaid[1] (Saesneg: Abercanaid).[2] Saif ddwy filltir a hanner i'r de o ganol tref Merthyr Tudful, i'r gorllewin o bentref Pentrebach, a'r ochr arall o Afon Taf i bentref Troed-y-rhiw. Mae Camlas Morgannwg a Llwybr Taf yn arwain heibio'r pentref.

Abercannaid
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7233°N 3.3644°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO058036 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruDawn Bowden (Llafur)
AS/au y DUGerald Jones (Llafur)
Map

Tyfodd y pentref yn y 1860au, i wasanaethu Glofa'r Lucitania. Un o bobl nodedig Abercannaid a'r ardal gyfagos oedd Lucy Thomas, diwydiannwr Cymreig a pherchennog nifer o lofeydd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4]

Bu'r gantores Petula Clark yn byw yn Abercannaid pan yn blentyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Medi 2019
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-24.
  4. Gwefan Senedd y DU