Map gan Owain Owain yn diffinio'r Fro Gymraeg am y tro cyntaf yn Rhifyn Ionawr 1964 o Tafod y Ddraig.

Roedd Mudiad Adfer yn grŵp protest a darddodd allan o Gymdeithas yr Iaith yn yr 1970au. Tynnodd y mudiad ei syniadau o amrywiol ffynonellau, yn eu plith erthyglau gan Owain Owain [1] ac Emyr Llewelyn. Roedd y syniadau a ddatblygwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn y 1960au ynghylch "bychanfyd", "troedle" i'r iaith, a "cydymdreiddiad iaith a thir" yn ddylanwad amlwg hefyd, a dyfynnai'r athronydd yn aml o waith y bardd Waldo Williams. Credai'r mudiad mewn gwarchod "Y Fro Gymraeg" – ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg. gyda'r Gymraeg yn ddelfrydol yn unig iaith bywyd cyhoeddus, e.e, ar arwyddion ffyrdd. Trwy greu peuoedd uniaith yn unig y gellid diogelu'r Gymraeg fel iaith cymuned. Cyhoeddai'r mudiad gylchgrawn, Yr Adferwr, ac ymgyrchwyd dros symud cyrff cyhoeddus yn ymwneud â'r diwylliant Cymraeg o Gaerdydd i'r Fro Gymraeg.

Daeth Mudiad Adfer I ben yn ymarferol tua diwedd yr 1980au, ond mae ei syniadau gwaelodol wedi eu mabwysiadu gan gyrff megis Cymuned a Chylch yr Iaith. Gwerthai Cwmni Adfer fuddsoddiadau yn y cwmni a phrynwyd ychydig o dai, eu hadfer a'u rhentu i bobl leol, ond cyfyngedig fu llwyddiant y mentrau hyn.

Ysgrifennodd Owain Owain mewn llythyr yn Y Faner ("Yr Iaith - Arf Gwleidyddol"):

Achubwn y Fro Gymraeg ac fe achubir Cymru. … Fe ellir achub y Fro Gymraeg – yn fuan – drwy ddefnyddio'r iaith fel erfyn gwleidyddol.[2]

Un o sloganau'r mudiad oedd "Tua'r Gorllewin" a cheisiwyd annog y Cymry Cymraeg i ddychwelyd i gefn gwlad Cymru. Gweler sylwadau Alan Llwyd ar awdl fuddugol T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958.[3]

Canodd y grŵp gwerin Ac Eraill a Tecwyn Ifan yntau lawer o ganeuon a adleisiai syniadaeth y mudiad, e.e. "Y Dref Wen". Lluniodd Alan Llwyd awdl "Adfer" sy'n adlewyrchu syniadaeth y cyfnod, ac fe'i cyhoeddwyd yn ei gyfrol Gwyfyn y Gaeaf yn 1975. gyda'r llinell glo "Yfory iaith: Adfer yw".

LlyfryddiaethGolygu

Emyr Llywelyn, Adfer a'r Fro Gymraeg (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1976)

CyfeiriadauGolygu

  1. Tafod y Ddraig Rhif 4; Ionawr 1964
  2.  "Y Fro Gymraeg". Gwefan Owain Owain. Adalwyd ar 17 Awst, 2009.
  3. "Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 1958" BBC

Dolenni allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am Mudiad Adfer
yn Wiciadur.