Accipitriformes
Urdd o adar yw'r Accipitriformes (Cymraeg: yr Eryrod (neu Gweilch): y bwncathod, yr eryrod, y fwlturiaid a llawer mwy. Ceir oddeutu 225 rhywogaeth o fewn yr urdd hon.
Delwedd:דורסי-יום-01.jpg, Red-tailed Hawk Buteo jamaicensis Full Body 1880px.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | urdd |
Rhiant dacson | Accipitrimorphae |
Dechreuwyd | Mileniwm 48. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Accipitriformes Amrediad amseryddol: Eocene-Presennol 47–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Bwncath cynffongoch y Gogledd Buteo jamaicensis | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Accipitriformes |
Teuluoedd | |
Am gyfnod, unwyd yr urdd hon gyda'r hebogau o fewn urdd y Falconiformes ond cytunodd sawl awdurdod eu bod ar wahân, yn ddwy urdd wahanol.[1][2][3][4] Mae profion DNA diweddar yn dangos nad yw'r hebogau'n perthyn yn agos i'r Accipitriformes, ond yn hytrach yn perthyn yn nes i'r parot a'r adar o fewn yr urdd Passeriformes.[5]
Nodweddion
golyguCeir tystiolaeth ffosil fod yr Accipitriformes yn bodoli o ganol yr Eosen. Mae ganddynt bigau bachog, miniog gyda chwyrbilen meddal, lle gorwedd y ffroenau. Mae eu hadennydd yn eitha llydan, yn hir ac mae eu coesau a'u traed (a'u crafangau) yn gryf iawn, gydag un crafangc yn y cefn. mae bron pob rhywogaeth o fewn yr urdd hon yn gigysydd. Fel arfer maen nhw'n hela yn y dydd neu'r cyfnos. Gwyddys fod gan rai oes hir iawn.
Teuluoedd
golyguRhestr Wicidata:
teulu | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Fwlturiaid y Byd Newydd | Cathartidae |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Voous 1973.
- ↑ Cramp 1980, tt. 3, 277.
- ↑ Ferguson-Lees & Christie 2001, t. 69.
- ↑ Christidis & Boles 2008, tt. 50–51.
- ↑ Hackett et al 2008.
Dolennau allanol
golyguMae gan Wicirywogaeth wybodaeth sy'n berthnasol i: Accipitriformes |