Silwraidd

3ydd cyfnod yn y gorgyfnod Paleosöig
Cyfnod Silwraidd
443.7–416 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 14 Cyfaint %[1]
(70 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 4500 rhan / miliwn[2]
(16 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 17 °C[3]
(3 °C uwch na'r lefel heddiw)
Lefel y môr (yn uwch na heddiw) Tua 180m[4]

Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr.

Cooksonia, planhigyn tir cyntefig o'r cyfnod Silwraidd

Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.

Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.

Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.

Un o brif nodweddion y cyfnod hwn yw datblygiad esgyrn mewn pysgod. Yn ail, gwelwyd bywyd yn dod i'r lan - ar y tir - mewn ffurfiau fel mwsogl, planhigion fasgwlaidd yn tyfu ar lan llynnoedd nentydd ac arfordiroedd; dyma'r cyfnod hefyd pan welwyd arthropodau ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid aros tan y cyfnod Defonaidd cyn gweld esblygiad pellach ar y tir, a'r amrywiaeth enfawr a ddaeth wedi'r cyfnod Silwraidd.

Epocau

golygu

Ceir pedair israniad o fewn y cyfnod Silwraidd, a elwir yn 'epocau':

  1. Epoc Llanymddyfri - ceir 3 israniad pellach o fewn y grŵp a elwir yn Telychian, Aeronaidd a Rhuddanaidd (a enwyd ar ôl Fferm Cefn-Rhuddan)[5]
  2. Epoc Wenlock
  3. Epoc Llwydlo
  4. Epoc Přídolí

Cyfeiriadau

golygu
  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png
  4. Haq, B. U.; Schutter, SR (2008). "A Chronology of Paleozoic Sea-Level Changes". Science 322 (5898): 64–68. Bibcode 2008Sci...322...64H. doi:10.1126/science.1161648. PMID 18832639.
  5. britannica.com ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2015
Cyfnod blaen Cyfnod hon Cyfnod nesaf
Ordofigaidd Silwraidd Defonaidd
Cyfnodau Daearegol