Acetasolamid

(Ailgyfeiriad o Acetazolamide)

Mae acetasolamid, sy’n cael ei werthu dan yr enw masnachol Diamox ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin glawcoma, epilepsi, salwch pen mynydd, parlys cyfnodol, gorbwysedd mewngreuanol idiopathig, a methiant y calon.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₄H₆N₄O₃S₂.

Acetasolamid
Delwedd:Acetazolamide Structural Formulae V.1.svg, Acetazolamide.svg
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathsulfonamide Edit this on Wikidata
Màs221.988 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₄h₆n₄o₃s₂ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGlawcoma, epilepsi, epilepsi gweledol, altitude sickness edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd

golygu

Mae acetazolamid, a werthir dan yr enw masnachol Diamox, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin glawcoma, epilepsi, salwch uchelder, parlys periodig, gordyndra mewngreuanol idiopathig, a methiant ar y galon. Gellir defnyddio'r feddyginiaeth yn y tymor hir er mwyn trin glawcoma ongl agored, ac yn y tymor byr i drin glawcoma ongl aciwt caeedig, a hynny nes y gellir cynnal llawdriniaeth. Fe'i cymerir drwy'r geg neu ar ffurf chwistrelliad i mewn i wythïen.[2]

Sgil effeithiau

golygu

Mae sgil effeithiau cyffredin y feddyginiaeth yn cynnwys dideimladrwydd, sŵn canu yn y clustiau, colli awydd bwyta, chwydu a blinder. Ni chaiff ei argymell i'r rheini â phroblemau sylweddol ar eu harennau, problemau ar yr afu, neu ag alergedd i sulfonamidau. Mae acetazolamid yn perthyn i deulu feddyginiaethau diuretig a charbonig anhydrase ataliol. Mae'n gweithio trwy ostwng y niferoedd o ïonau hydrogen a bicarbonad yn y corff.[2]

Defnyddiwyd asetazolamid ar gyfer pwrpas meddygol am y tro cyntaf ym 1952. Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae acetazolamid ar gael fel meddyginiaeth generig. Cost gyfanwerthol y feddyginiaeth yn y byd datblygedig yw oddeutu 1.40 i 16.93 o ddoleri'r mis. Yn yr Unol Daleithiau, caiff ei werthu am gost gyfanwerthol o tua 125.34 o ddoleri'r mis.[3]

Defnydd meddygol

golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • glawcoma
  • epilepsi
  • epilepsi gweledol
  • Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Acetasolamid, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • Diamox®
  • Diamox
  • N-[5-(aminosulfonyl)-1,3,4-thiadiazol-2-yl]
  • Acetazolamide 250mg
  • Cyfeiriadau

    golygu
    1. Pubchem. "Acetasolamid". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. 2.0 2.1 "Acetazolamide". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
    3. "NADAC as of 2016-12-07 | Data.Medicaid.gov". Centers for Medicare and Medicaid Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 December 2016. Cyrchwyd 28 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!