Adain welw

gwyfyn
Lithophane socia
Dosbarthiad gwyddonol
Parth: Eukarya
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Lithophane
Rhywogaeth: L. socia
Enw deuenwol
Lithophane socia
(Hufnagel, 1766)
Cyfystyron
  • Phalaena socia Hufnagel, 1766
  • Noctua petrificata Denis & Schiffermüller, 1775
  • Noctua petrificosa Hübner, [1803]
  • Lithophane petrolignea Hübner, [1821]
  • Xylophasia incognita Butler, 1885
  • Lithophane hepatica (Clerck, 1759)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw adain welw, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy adenydd gwelw (-on); yr enw Saesneg yw Pale Pinion, a'r enw gwyddonol yw Lithophane socia neu Lithophane hepatica.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop, gan gynnwys Waunfawr, Caernarfon.[3]

38–46 mm ydy lled yr adenydd agored ac mae'n hedfan yn Hydref a Thachwedd, yn ddibynol ar ei leoliad, ac eto'n y gwanwyn am yr ail genhedlaeth, pan maen nhw'n paru.

Prif fwyd y lindys ydy llwyni a choed: rhywogaethau o Salix (gan gynnwys Salix caprea a Salix myrsinifolia); mae'r siansi blewog hŷn hefyd yn bwyta: mathau o Rumex. Cofnodwyd y canlynol hefyd: Betula (gan gynnwys Betula pubescens), Rubus idaeus, Malus domestica, Sorbus aucuparia, Prunus padus, rhywogaethau o Tilia (gan gynnwys Tilia cordata), Vaccinium myrtillus, Syringa vulgaris a Viburnum opulus.

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r adain welw yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur.
  3. "Gwefan Llên Natur; Rhifyn 64; adalwyd 03 Mehefin 2013" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-09-24. Cyrchwyd 2013-06-02.