Adam Small

llenor Afrikaans

Roedd Adam Small (21 Rhagfyr 193625 Mehefin 2016) yn llenor a dramodydd o Dde Affrica ac yn un o gynrychiolwyr Affricaneg (Afrikaans) pwysicaf yn y mudiad Ymwybyddiaeth Ddu a gwrth-Apartheid. Daeth yn adnabyddus am ei gerddi a'i ddramâu. Yn ei waith llenyddol canolbwyntiodd ei waith a roi llais i brofiad y bobl lliw (y Kaapse Kleurlinge; Cape Coloureds) a'r gwahaniaethau a achoswyd rhwng y gwahanol bobloedd oedd yn siarad Afrikaans - gwynion a lliw - yn sgil polisiau a meddylfryd hiliol. Roedd hefyd yn delio â phynciau o dlodi a chamweddau. Gall ei lenyddiaeth fod yn ddychanol o'r byd o'i gwmpas.[1]

Adam Small
Ganwyd21 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata
Wellington Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 2016 Edit this on Wikidata
Tref y Penrhyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata
Adam Small - cyfeiriad ato yn llyfr Finding Afrikaans gan Christo van Rensburg

Cefndir

golygu

Magwyd ef yn nhref fechan, Goree, 70 km i'r gogledd ddwyrain o Kaapstad - roedd ei dad o linach caethweithsion ac yn athro ysgol, a'i fam o gefndir Indiaidd Mwslim. Unieithodd ei hun fel 'Afrikaaner' - ymlyniad pur anarferol yn y cyfnod, ac efallai hyd heddiw, i berson 'lliw', pan cysylltiwyd yr hunaniaeth 'Afrikaaner' gyda pobl croenwyn. Roedd ymlyniad Small i'r hunaniaeth yn un ieithyddol a ddiwylliannol.[2] Trwy gydol ei fywyd o'i lith “Die Eerste Steen” ("Y Garreg Gyntaf", 1961) i'w ddrama “The Orange Earth” (neu “Goree”, 1978; 2013), daliodd mai un o anghyfiawnderau mwyaf apartheid oedd i'r bobl oedd yn siarad yr un iaith a rhannu'r un etifeddiaeth ddiwylliannol gael ei rhannu ar hap ar sail lliw eu croen.

Perthynai Small i'r gymuned kleurlinge (lliw) ac roedd yn un o'r awduron Afrikaans bwysicaf gan wneud defnydd mawr o'i dafodiaeth Kaaps Afrikaans - Afrikaans y Penrhyn, nad oedd yn cael ei dderbyn fel mynegiant safonnol. Iddo ef roedd Kaaps Afrikaans yn iaith ymryddhad.

Ar ôl iddo adael ysgol yn 1953, astudiodd Small ym mhrifysgolion Cape Town, Llundain a Rhydychen, a chwblhaodd ei radd feistr MA mewn athroniaeth Nicolai Hartmann a Friedrich Nietzsche ym 1963.[3] Dechreuodd ei yrfa academaidd fel darlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Fort Hare ac, yn 1960, daeth yn bennaeth Adran Athroniaeth Prifysgol Gorllewin y Penrhyn, Westerm Cape (UWC), a sefydlwyd wedyn fel sefydliad academaidd ar gyfer y Gymuned Lliw. Oherwydd ei fod yn rhan o'r Mudiad Ymwybyddiaeth Du, bu'n rhaid iddo ymddiswyddo yn 1973. Symudodd i Johannesburg, lle penodwyd ef yn bennaeth gwasanaethau cymunedol myfyrwyr Prifysgol Witwatersrand. Ar ôl dychwelyd i'r Cape ym 1977, daeth yn gyfarwyddwr Sefydliad Gwaith Cymunedol Western Cape ac ailddechreuodd ei yrfa academaidd yn UWC yn 1984. Ar ôl gwasanaethu tair blynedd ar ddeg fel pennaeth yr Adran Gwaith Cymdeithasol, ymddeolodd yn 1997.

Mae ei farddoniaeth yn ceisio adlewyrchu, a rhoi llais, ac felly statws i Affricaneg trigolion tlawd y Kaaps, gan yn aml plethu Saesneg i'r cerddi.[4]

Yn yr un modd ceisiodd ei ddramâu roi llais a mynegiant i fywyd a phrofiadau Affricaneg y penrhyn. Sefydlodd gwmni drama,Cape Flats Players.[5]

Cydnabyddiaeth

golygu

Enillodd Adam Small sawl wobr a chydnabyddiaeth am ei waith, yn enwedig wedi cwymp Apartheid. Dyfarnwyd iddo Radd Anrhydedd ym Mhrifysgol Stellenbosch iddo yn 2015 am ei gyfraniad i "symud ffiniau llenyddaeth De Affrica, ategu at yr iaith Affricaneg, ac, mewn modd sensitif drwy rhoi mynegiant gref i materion roedd eraill yn petruso eu cydnabod, a gan hynny, rhoi lais i'r di-lais."[6]

Dyfarnwyd iddo Wobr Hertzog yn 2012 am ei ddramâu hyd at 1983. Er bod y gymuned lenyddol a'r cyhoedd fel ei gilydd wedi llawnhau yn y newyddion, fe achosodd y penderfyniad ddadl o fewn Academi lenoddol De Affrica gan iddi torri rheoliadau oedd yn nodi y gellid ond dyfarnu'r wobr mewn genre penodol ar yr amod bod yr awdur wedi cyhoeddi gwaith newydd ac arwyddocaol o fewn y genre berthnasol yn ystod y tair blynedd flaenorol.[7]

Cydnabyddwyd cyfraniad Adam Small i fyd y theatr yn Ne Affrica ac i theatr v yn benodol gan enwi campws theatr Adam Small-teaterkompleks ym Mhrifysgol Stellenbosch ar 23 Tachwedd 2018.[8]

Cynhaliwyd Adam Small-fes (Gŵyl Adam Small) ym mhentref Pniel ger Stellenbosch yn 2018 oedd yn ddathliad o lenyddiaeth, llyfrau, cerddoriaeth a barddoniaeth Affricaneg.[9]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Verse van die liefde (barddoniaeth, 1957 – debuut)
  • Kanna hy kô hystoe (drama, 1965) Kaapstad: Tafelberg.
  • Kitaar my kruis (barddoniaeth, 1961)
  • Sê sjibbolet (barddoniaeth, 1963)
  • Oos wes tuis bes Distrik Ses (barddoniaeth, 1973)
  • Krismis van Map Jacobs (drama, 1983) Kaapstad: Tafelberg.
  • Klawerjas (2013) Kaapstad: Tafelberg.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Albert S. Gérard, European-language Writing in Sub-Saharan Africa, p.224
  2. http://theconversation.com/adam-small-south-africas-poet-prophet-and-man-of-the-people-has-gone-home-61758
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-12. Cyrchwyd 2019-01-09.
  4. https://www.youtube.com/watch?v=WsLKV-88plI
  5. http://www.scielo.org.za/scielo.php?script=sci_abstract&pid=S0041-47512017000500002
  6. https://www.youtube.com/watch?v=BvDyR8ikFo0
  7. Hertzogprys vir Adam Small Archifwyd 2012-03-26 yn y Peiriant Wayback, Beeld, 23 Maart 2012
  8. https://www.litnet.co.za/persverklaring-adam-small-teaterkompleks-amptelik-by-us-geopen/
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-03. Cyrchwyd 2019-01-09.