Kaapse Afrikaans

tafodiaith Afrikaans
(Ailgyfeiriad o Kaaps Afrikaans)

Mae Kaaps-Afrikaans hefyd, Kaaps, Bo-Kaaps ("Kaaps y Bae") hefyd Kaapse Taal ("iaith y Penrhyn"); Saesneg: Cape Afrikaans yn dafodiaith o'r iaith Affricaneg (Afrikaans) sy'n nodweddiadol o dalaith Wes-Kaaps yn Ne Affrica. Mae'r dafodiaith wedi eu dylanwadau'n drymach gan Malaieg nag Afrikaans safonol a cheir rhai ffurfiau sy'n agosach at Iseldireg.

Map o fwrdeistrefi talaith y Wes-Kaap, 2016
Map yn dangos parthau prif iaith Kaapstad, 2001; Gwyrdd Afrikaans; Melyn Saesneg; Oren Xhosa; Llwyd dim prif iaith

Siaredir y dafodiaith gan mwyaf ar yr arfordir ac yn y ninas Kaapstad. Dywedir ei bod yn hawdd i siaradwyr Iseldireg ei deall a hynny gan fod Afrikaans yn ddisgynnydd-iaith i'r Iseldireg a cafwyd cyfnod i diglossia rhwng 1652 ac 1930 (pan gwnaethpwyd Affricaneg yn iaith swyddogol yn lle'r Iseldireg).

Siaredir Kaapse-Afrikaans gan mwyaf gan bobl 'lliw' (Kaapse Kleurling y Penrhyn a ceir drafodaeth a yw hi'n iaith sathredig o Affricaneg neu dafodiaith ar wahân. Bu llenorion ac academyddion o'r gymuned lliw, megis Adam Small a Neville Alexander yn pledio achos y dafodiaith.

Yn ogystal â'r drafodaeth a yw'r Kaapse-Afrikaans yn dafodiaith o Afrikaans ceir hefyd elfen gref o 'newid côd ('code switching') ieithyddol rhwng yr Afrikaans a'r Saesneg.

Nodweddion golygu

Mae Kaapse Afrikaans yn cadw rhai nodweddion sy'n debycach i'r Iseldireg na'r Afrikaans gyfoes.[1]

  • Mae'r rhagenw personol unigol, ik fel y mae yn yr Iseldireg ac nid fel yr Affricaneg gyfoes, ek
  • Mae'r bychanig terfynol -tje, yn cael ei ynganu fel yn yr Iseldireg ac nid fel /ki/ yn Afrikaans
  • Defnydd o'r ffurf seg (cymhared â'r Iseldireg, zegt) yn hytrach na'r Affricaneg

Mae gan Kaapse Afrikaans rai nodweddion eraill na ganfyddir yn arferol yn Affricaneg cyffredin:

  • Ynganer y lythyren j, yn aml fel /dz/. Dyma nodwedd amlycaf Kaapse Afrikaans
  • Ceir /j/ ymwthiol ar ôl /s/, /t/, /k/ pan ddilynir gan /e/, e.e. kjen yn hytrach na'r ken mewn Afrikaans Safonnol

Dosbarthiad Tafodieithoedd Afrikaans golygu

  • Iseldireg
    • Afrikaans
      • Kaaps-Afrikaans
      • Oorlams (tafodiaith leiaf o ran nifer, tafodiaith Afrikaans pobl frodorol y wlad, yr Oorlam, is-lwyth o'r Nama)
      • Oranjerivier-Afrikaans (Afrikaans yr Afon Oren)
      • Oosgrens-Afrikaans (Afrikaans Ffin y Dwyrain - yr Afrikaans a ddatblygodd gyda'r Voortrekkers a ymfudodd allan o'r Penrhyn tuag at dwyrain perfeddwlad De Affrica yn hanner gyntaf yr 19g)
      • Afrikaans Namibia' - mae Afrikaans yn un o brif ieithoedd Namibia a bu'n iaith yno ers canrifoedd fel mam iaith ac fel lingua franca [2] Yn 2010-11 fel ymgais i ail-ddiffinio'r dafodiaith fel creuwyd sioe lwyfan gerddorol hop-opera o'r enw Afrikaaps gan artistiaid Afrikaans amrywiol yn wyn ac yn arbennig o'r gymuned Kaapse Kleurlinge. Trosglwyddwyd hanes y dafodiaith (a'i iaith Afrikaans) drwy gyfrwng jazz, hip-hop, caneuon traddodiadol goema a reggae gan adrodd hanes o'r dyddiau cynnar a hanes siaradwyr cynharaf yr iaith newydd, Autshumaoa ("Harry the Strandloper") i'r presennol.[3]

Cymdeithaseg golygu

Ystyrir Kaapse Afrikaans, neu Kaaps, fel fersiwn llai cywir o Afrikaans gan rai gan dynnu i mewn dadleuon neu deimladau am ddosbarth cymdeithasol a hil.[4][5] Gellir dadlau fod hyder newydd yn y defnydd o'r dafodiaith.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Lekker Stories". Kaapse Son - Die eerste Afrikaanse Poniekoerant (yn Afrikaans). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-15. Cyrchwyd 2017-12-21. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. https://www.litnet.co.za/afrikaans-as-lingua-franca-in-namibie/
  3. https://mg.co.za/article/2016-12-15-00-afrikaaps-is-an-act-of-reclamation
  4. https://www.capetownmagazine.com/kaaps
  5. http://www.scielo.org.za/scielo.php?script=sci_arttext&pid=S2221-40702018000100004M[dolen marw]
  6. https://yazkam.wordpress.com/2015/01/21/kaapse-afrikaans-a-language-of-freedom/

Dolenni allanol golygu