Adela Pankhurst
Ffeminist a swffragét o Loegr ac yna Awstralia oedd Adela Pankhurst (19 Mehefin 1885 - 23 Mai 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Hi hefyd oedd cyd-sefydlydd Plaid Comiwnyddol Awstralia a hefyd Mudiad Cyntaf Awstralia, sef mudiad ffasgiaidd a lansiwyd yn Hydref 1941. Roedd Adela ymhlith y grŵp cyntaf o swffragetiaid i fynd ar streic newyn pan oedd yn y carchar, ac roedd yn cael ei thargedu gan yr heddlu, fel ymgyrchydd proffil uchel. Yn Lloegr, bu'n aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol.[1][2][3][4][5]
Adela Pankhurst | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1885 Swydd Gaerhirfryn |
Bu farw | 23 Mai 1961 Sydney |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, person cyhoeddus, swffragét |
Plaid Wleidyddol | Y Blaid Lafur Annibynnol, Communist Party of Australia, Australia First Movement |
Tad | Richard Pankhurst |
Mam | Emmeline Pankhurst |
Priod | Tom Walsh |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Ganwyd Adela Constantia Mary Pankhurst Walsh ym Manceinion ar 19 Mehefin 1885 a bu farw yn Awstralia. Fe'i magwyd, o ddydd i ddydd, ar aelwyd a oedd yn hoff o drafod materion gwleidyddol. Bu ei thad yn ymgeisydd seneddol sosialaidd ac roedd ei mam Emmeline, a'i chwiorydd Sylvia a Christabel yn arweinyddion o'r mudiad Prydeinig dros etholfraint. Mynychodd yr ysgol uwchradd leol ym Manceinion ac yna bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Amaethyddol Studley yn Swydd Warwick.[6]
Lloegr
golyguYn ei harddegau, ymunodd Adela gydag mudiad eitha milwriaethus, sef yr Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (Women's Social and Political Union) a sefydlwyd gan ei mam a'i chwiorydd. Yn Nhachwedd 1909 ymunodd â phrotest lle torrwyd ar draws sgwrs gan Winston Churchill yn ei etholaeth yn Dundee. Cafodd ei harestio ynghyd â Helen Archdale a Maud Joachim am slapio plismon a oedd yn ceisio ei throi allan o'r adeilad.
Christabel Pankurst oedd ffefryn ei mam ac edrychai'r ddwy ohonynt ar yr Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched fel eu sefydliad personol nhw eu hunain. Cafwyd ffrae enfawr rhyngddynt a llawer o'u gwirfoddolwyr a'u cefnogwyr blaenllaw (gan gynnwys Sylvia ac Adela). Roedd y ddwy ohonynt yn credu mewn sosialaeth tra bod Emmeline a Chistabel yn gwthio am y bleidlais i fenywod dosbarth canol. Taflwyd Sylvia allan o'r Undeb a sefydlodd ei grŵp ei hun yn Nwyrain Llundain. Rhoddwyd tocyn unffordd £20 i Adela - i Awstralia - a llythyr yn ei chyflwyno i Vida Goldstein.[7]
Awstralia
golyguYmfudodd Adela i Awstralia ym 1914. Ysgrifennodd lyfr o'r enw Put Up the Sword, ysgrifennodd nifer o bamffledi gwrth-ryfel ac anerchodd gyfarfodydd cyhoeddus yn siarad yn erbyn rhyfel a chonscripsiwn (gorfodaeth filwrol).[8]
Yn 1915, gyda Cecilia John o Fyddin Heddwch y Merched, teithiodd Awstralia i sefydlu canghennau o'r mudiad. Y flwyddyn wedyn, teithiodd drwy Seland Newydd gan annerch torfeydd mawr, ac unwaith eto teithiodd New South Wales a Queensland yn dadlau dros bwysigrwydd y gwrthwynebiad ffeministaidd i filitariaeth. Ym mis Awst 1917, yn ystod gorymdaith yn erbyn prisiau bwyd cynyddol, arestiwyd Pankhurst, ym Melbourne, gorymdaith a oedd yn rhan o gyfres o brotestiadau eitha treisgar. Roedd llawer o'r protestiadau ymfflamychol hyn, yn eironig, yn cael eu sbarduno a'u harwain gan fenywod dros heddwch.[9]
Ym mis Medi 1917, priododd Tom Walsh o Undeb Ffederal Morwyr Awstralasia (the Federated Seamen's Union of Australasia), a chawsant un mab a phum merch. Ym 1920, cyd-sefydlodd Blaid Gomiwnyddol Awstralia, ond cafodd ei diarddel yn ddiweddarach.[10]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Dyddiad geni: "Adela Pankhurst, verh. Walsh". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Adela Pankhurst, verh. Walsh". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Bartley, t. 16; Liddington and Norris, t. 74.
- ↑ Sparrow, Jeff (24 Rhagfyr 2015). "'Wayward suffragette' Adela Pankhurst and her remarkable Australian Life". The Guardian. Cyrchwyd 9 Mawrth 2016.
- ↑ Hogan, Susan. Australian Dictionary of Biography. Canberra: National Centre of Biography, Australian National University.
- ↑ http://www.outskirts.arts.uwa.edu.au/volumes/volume-39
- ↑ Smart, Judith (May 1986). "Feminists, food and the cost of living demonstrations in Melbourne August-September 1917". Labour History (50): 113–131. doi:10.2307/27508786.