Aderyn Papur
Mae Aderyn Papur yn ffilm Gymraeg a ryddhawyd ym 1984. Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Stephen Bayly.
Teitl amgen | And Pigs Might Fly |
---|---|
Cyfarwyddwr | Stephen Bayly |
Cynhyrchydd | Linda James |
Ysgrifennwr | Ruth Carter |
Cerddoriaeth | Trevor Jones |
Sinematograffeg | Richard Greatrex |
Golygydd | Scott Thomas |
Sain | Simon Fraser |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Red Rooster Film and Television |
Dyddiad rhyddhau | 1983 |
Amser rhedeg | 75 munud |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Crynodeb
golyguMae Alun yn cyrraedd adref i’w gymuned chwarelyddol ar ôl ymweld a’i fam yn Lerpwl. Mae’n argyhoeddedig bod dau ymwelydd o Siapan yn paratoi i adfywio’r gymuned. Ei obaith yw y byddant yn medru cynnig gwaith i’w dad, ac y bydd hyn yn gymorth i ddenu ei fam yn ôl i’r cartref teuluol. Mae ei frawd Idris yn awgrymu ei fod yntau hefyd am adael ac ymuno â’r fyddin, ond mae Alun yn argyhoeddedig y bydd y chwarel yn llwyddiannus eto wrth ddarparu llechi ar gyfer byrddau snwcer.
Cast a Chriw
golyguPrif Gast
golygu- Richard Love (Alun Owen)
- Iola Gregory (Modryb Catrin)
- John Ogwen (Gwyn)
Cast Cefnogol
golygu- Robert E. Roberts – Idris
- Llewelyn Jones – Gareth
- Stewart Jones – Grandpa
- Tadaaki Noguchi – Kazuo
- Yoshio Kawahara – Naoyuki
- Gwenno Hodgkins – Miss Morgan
- Edwin Williams – Mr. Thomas
Cydnabyddiaethau Eraill
golygu- Celf – Hildegard Bechtler
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Gwobr |
---|---|
Celtic Film Festival | ‘Spirit of the Festival’ prize. |
Inter Celtic Festival | Lorient ‘First Prize’. |
International Film Festival for Children and Young People, Gijon, Spain | |
Chicago International Festival for Children and Young People. | ‘Premio Pelayo’ |
Manylion Atodol
golyguLlyfrau
golygu- David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Adolygiadau
golygu- Variety, 29 Tachwedd 1984.
Erthyglau
golygu- (Saesneg) Forsberg, Myra (30 Awst 1987). An American Director offers a quirky Welsh lament. The New York Times. Adalwyd ar 20 Awst 2014.
- Broadcast, 24 Awst 1984.
- Broadcast, 20 Ebrill 1984.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Aderyn Papur ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.