Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Cangen weinyddol Cynulliad Gogledd Iwerddon, senedd datganoledig Gogledd Iwerddon, ydy Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n atebol i'r Cynulliad a chafodd ei sefydlu yn unol â thelerau Deddf Gogledd Iwerddon 1998, a ddaeth yn sgîl Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Dydd Gwener y Groglith).

Yr Arlywydd Barack Obama yn cyfarfod â'r Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, ac â'r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness

Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cynnwys y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog a nifer o weinidogion gyda phortffolios a dyletswyddau amrywiol. Mae prif blaid y cynulliad yn apwyntio'r nifer fwyaf o weinidogion i'r Gweithrediaeth, ac eithrio'r Gweinidog Cyfiawnder a gaiff ei ethol gan bleidlais draws-gymunedol. Mae hon yn un o dair llywodraeth ddatganoledig yn y Deyrnas Unedig, gyda'r lleill yn yr Alban ac yng Nghymru.

Wedi cyfnod o anghydfod a diffyg cydweithio ar ddechrau'r 2000 cynhaliwyd Cytundeb St Andrews yn 2006. Gydag hyn cafwyd addewid a amserlen i gynyddu canran o'r gymuned cenedlaetholaidd a Chatholig yng ngweithlu Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon. Cafwyd addewid o hawliau iaith Gwyddeleg ond ni wireddwyd hyn gan arwain at sefydlu mudiad iaith An Dream Dearg yn 2016.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu