Gwas neidr llygadwyrdd

(Ailgyfeiriad o Aeshna isoceles)
gwas neidr llygadwyrdd
Aeshna isosceles
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. isoceles
Enw deuenwol
Aeshna isoceles
(Muller, 1767)

Pryfyn yn nheulu'r Aeshna caerulea' yw Gwas neidr llygadwyrdd (ll. gweision neidr llygadwyrdd; Lladin: Aeshna isosceles; Saesneg: Norfolk Hawker) sy'n perthyn i Urdd yr Odonata - sef Urdd y Gweision neidr a'r nod.

Caiff ei ddisgrifio fel un o'r 'gweision neidr' (Aeshnidae neu hawker) ac mae'n was neidr bychan sydd i'w ganfod yn Ewrop. Fe'i ceir yn bennaf o gwmpas y Môr Canoldir a thiroedd isel Gogledd Affrica.

Yng ngwledydd Prydain mae'n bryfyn eitha prin. Mae'n frown ac mae ganddo lygaid gwyrdd ac adenydd tryloyw, clir. Ar ail ran y corff ceir marc siâp triongl, sy'n rhoi iddo'i enw Lladin, gwyddonol.

Nodweddion golygu

Dau was neidr brown sydd i'w gael yn Ewrop - y llall yw A. grandis. Mae gan y ddau thoracs ac abdomen brown, ond mae gan A. isoceles lygaid gwyrdd ac adenydd tryloyw a marc triongl arno. Dyma'r nodweddion i edrych amdanynt wrth geisio gwahaniaethu rhwng y ddau. Mae gan A. grandis, fodd bynnag, adenydd melyn golau a llygaid glas.

Cynefin golygu

Ei gynefin yw tiroedd gwlyb, ffosydd, rhostiroedd gyda llawer o blanhigion lle ceir Stratiotes aloides.

Gweler hefyd golygu

  • Mursen - teulu arall tebyg a elwir ar lafar yn gyffredin yn weision neidr.

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolennau allanol golygu