Gwas neidr Asur

(Ailgyfeiriad o Aeshna caerulea)
Gwas neidr asur
Aeshna caerulea
Aeshna caerulea yn Awstria
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. caerulea
Enw deuenwol
Aeshna caerulea
(Ström, 1783)

Pryfyn bychan yn nheulu'r deulu'r Aeshnidae' yw gwas neidr asur (ll. gweision neidr asur; Lladin: Aeshna caerulea; Saesneg: Azure Hawker) sy'n perthyn i Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a't nod). Mae'n un o'r gweision neidr lleiaf ac yn hedfan rhwng diwedd Mai ac Awst. Mae'n 62 mm o hyd.

Mae gan y gwryw a'r fenyw sbotiau glas o liw asur (Arabeg: al lazuwar drwy'r Ffrangeg: azure) ar eu habdomen a'u thoracs. Marciau hyn yn fwy ar y gwryw na'r fenyw, sy'n fwy brown ei lliw.[2] Yn yr haul y daw allan i hedfan ac fe'i gwelir yn gorwedd yn yr haul ar risgl coeden neu graig yn aml. Mae'n cysgodi rhag y glaw a'r gwynt o dan y grug neu lwynni isel, tebyg. Yr hyn sy'n unigryw i'r gwas neidr asur yw fod y lliw asur yn fwy llachar, yn gryfach lliw pan fo'r haul yn danbaid, ond yn dylu wrth i'r tymheredd ostwng.[3]

Tiriogaeth golygu

Ewrasia a rhannau deheuol o Begwn y Gogledd yw ei diriogaeth.[1] Yng ngwledydd Prydain fe'i ceir yn yr Alban yn unig.[2]

Gweler hefyd golygu

  • Mursen - teulu arall tebyg a elwir ar lafar yn gyffredin yn weision neidr.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Clausnitzer, V. (2007). "Aeshna caerulea". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2010.3. International Union for Conservation of Nature. Cyrchwyd 29 Medi 2011.CS1 maint: ref=harv (link)
  2. 2.0 2.1 "Azure Hawker". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 29 Medi 2011.
  3. Willet, Jonathan (Ebrill 2013). "The Azure Hawker Aeshna caerulea (Ström)". Journal of the British Dragonfly Society 29: 5.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolennau allanol golygu