Afiechyd Addison
Mae afiechyd Addison, a elwir hefyd yn annigonedd uwcharennol sylfaenol neu hypocortisolism, yn anhwylder endocrinaidd hirdymor lle nad yw'r chwarennau adrenal yn cynhyrchu digon o hormonau steroid. Yn gyffredinol, mae symptomau'n datblygu'n raddol ac mae'n bosib y byddant yn cynnwys poen yn yr abdomen, gwendid corfforol a gostyngiad mewn pwysau. Gall y cyflwr tywyllu'r croen mewn rhai ardaloedd hefyd. Mae modd i argyfwng adrenal achosi pwysedd gwaed isel, chwydu, poen yn y cefn, ac anymwybyddiaeth. Achosir argyfwng adrenal gan straen cyffredinol, yn deillio o anaf, llawdriniaeth neu haint er enghraifft.
Enghraifft o'r canlynol | designated intractable/rare disease, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | adrenal cortical hypofunction, endocrine system disease, clefyd y system atgynhyrchu benywaidd, clefyd yr arennau, clefyd system atgenhedlu dynion, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Endocrinoleg |
Symptomau | Blinder meddwl, anorecsia, gwendid cyhyrau, colli pwysau, poen yn yr abdomen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deillia clefyd Addison o broblemau yn y chwarren adrenal, fel na chynhyrchir digon o'r hormonau steroid cortisol ac aldosteron, yn fwy aml na pheidio achosir y fath ddirywiad gan system imiwnedd corfforol isel yn y byd datblygedig, ac yn aml twbercwlosis yn y byd datblygol.[1] Ymhlith yr achosion eraill y ceir rhai meddyginiaethau, madredd, a gwaedu i'r chwarennau adrenal. Achosir annigonolrwydd adrenal eilaidd gan ddiffyg hormon adrenocorticotropic (ACTH) (a gynhyrchir gan y chwarren bitẅidol) neu CRH (a gynhyrchwyd gan y hypothalamws). Er gwaethaf y gwahaniaeth rhyngddynt, gall argyfyngau adrenal ddigwydd ym mhob math o annigonolrwydd adrenal. Yn gyffredinol, caiff clefyd Addison ei diagnosio gan brofion gwaed, profion dwr, a delweddu meddygol.
Wrth drin y cyflwr rhaid ailosod yr hormonau absennol. Hynny yw, cymryd corticosteroid megis hydrocortisone a fludrocortisone.[2] Cymerir y meddyginiaethau uchod fel arfer drwy'r geg. Mae gofyn cynnal therapïau ailosod steroid yn gyson, ac yn aml drwy gydol oes y dioddefwr, a chynhelir triniaethau dilynol rheolaidd ynghyd â rhaglen monitro problemau iechyd eraill. Gall diet yn cynnwys lefelau uchel o halen fod yn effeithiol mewn rhai achosion hefyd. Os gwaethyga symptomau, argymhellir chwistrellu orticosteroid i system y dioddefwr ac fe'i hanogir i gludo dos gyda hwy. Mewn llawer o achosion mae gofyn chwistrelli llawer o hylifau'n cynnwys siwgr decstros. Heb driniaeth, gall argyfwng adrenal arwain at farwolaeth.
Mae clefyd Addison yn effeithio ar oddeutu 0.9 i 1.4 ym mhob 10,000 o bobl yn y byd datblygedig.[3] Effeithia merched canol oed yn bennaf. Mae'r cyflwr annigonolrwydd adrenal eilaidd yn fwy cyffredin. Os cynhelir triniaethau, yn fwy aml na pheidio, ceir canlyniadau hir dymor effeithiol. Enwyd y clefyd ar ôl Thomas Addison, a raddiodd o Ysgol Feddygol Prifysgol Caeredin, ef oedd y cyntaf i ddisgrifio'r cyflwr ym 1855. Defnyddir yr ansoddair "addisonaidd" i ddisgrifio rhai o nodweddion y cyflwr, yn ogystal â phobl â chlefyd Addison.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adam, Andy (2014). Grainger & Allison's Diagnostic Radiology (arg. 6). Elsevier Health Sciences. t. 1031. ISBN 9780702061288. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-14. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Napier, C; Pearce, SH (June 2014). "Current and emerging therapies for Addison's disease.". Current Opinion in Endocrinology, Diabetes and Obesity 21 (3): 147–53. doi:10.1097/med.0000000000000067. PMID 24755997.
- ↑ Brandão Neto, RA; de Carvalho, JF (2014). "Diagnosis and classification of Addison's disease (autoimmune adrenalitis).". Autoimmunity reviews 13 (4-5): 408–11. doi:10.1016/j.autrev.2014.01.025. PMID 24424183.