Afon yng Ngwlad y Basg sy'n ffurfio rhan o'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc yw Afon Bidasoa (Ffrangeg: Bidassoa).

Afon Bidasoa
Mathafon, y brif ffrwd Edit this on Wikidata
LL-Q8752 (eus)-ElsaBornFree-Bidasoa.wav Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGipuzkoa, Nafarroa Garaia, Lapurdi Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau43.3728°N 1.7919°W Edit this on Wikidata
TarddiadErratzu Edit this on Wikidata
AberBae Bizkaia Edit this on Wikidata
LlednentyddEzkurra, Tximista Erreka, Onin, Beartzungo Erreka, Artesiagako Erreka, Q5476653, Endara Edit this on Wikidata
Dalgylch710 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd68.4 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad25.6 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu yn y Pyreneau yn Navarra. Fe'i gelwir yn Afon Baztan hyd nes iddi gyrraedd Oronoz-Mugairi, lle mae'n newid ei henw i Afon Bidasoa. Ffurfia'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc am 10 km cyn cyrraedd y môr ym Mae Bizkaia; mae ei haber rhwng Hendaia a Hondarribia. Ceir pysgota am eog a brithyll ynddi.