Lapurdi
Un o'r tair talaith draddodiadol sy'n ffurfio Iparralde, y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc yw Lapurdi (Basgeg: Lapurdi, Ffrangeg: Labourd). Ystyrir Lapurdi yn un o'r saith talaith sy'n ffurfio Euskal Herria. Yn y de, mae'n ffinio ar gymuned Navarra a thalaith Guipúzcoa yn Sbaen.
Math | talaith |
---|---|
Poblogaeth | 266,237 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gwlad y Basg, Iparralde |
Sir | Pyrénées-Atlantiques |
Gwlad | Gwlad y Basg |
Arwynebedd | 859 km² |
Yn ffinio gyda | Gipuzkoa |
Cyfesurynnau | 43.4°N 1.45°W |
Y brifddinas yw Ustaritz. Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Baiona, Biarritz, Saint-Jean-de-Luz a Hendaia.