Afon Cerdin

afon yng Ngheredigion

Afon yn ne Ceredigion, Cymru, yw Afon Cerdin.[1] Mae'n llifo am tua 10 milltir o'i tharddle ger Capel Cynon i'w chymer ar Afon Teifi ger Llandysul.

Afon Cerdin
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.058467°N 4.316206°W Edit this on Wikidata
Map

Tardda'r afon yn y bryniau ger Capel Cynon, tua 290 meter i fyny.[2] Mae'n llifo i gyfeiriad y de gan fynd heibio i safle bryngaer Dinas Cerdin, a enwir ar ôl yr afon, ger Ffostrasol. Wedyn mae'n troi i gyfeiriad y de-orllewin heibio i bentref Tregroes a thrwy Fforest Cerdin i'w chymer ar Afon Teifi tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o Landysul.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Afon Cerdin", Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol; adalwyd 23 Ionawr 2023
  2. Map OS 1:50,000 Taflen 145
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.