Capel Cynon

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Capel Cynon. Mae'n gorwedd ar yr A486 rhwng Synod Inn a Ffostrasol, 8 filltir i'r de o'r Ceinewydd yng nghymuned Llandysiliogogo. Tardda Afon Cerdin yn y bryniau ger Capel Cynon.

Capel Cynon
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.12042°N 4.36451°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Enwir y pentref ar ôl yr hen eglwys (capel) a gysegrir i Sant Cynon.

Dyma fro'r bardd Sarnicol. Roedd y pentref yn enwog yn y gorffennol am ei ddwy ffair flynyddol. Cynhelid y naill ar ddydd Iau y Dyrchafael a'r llall ar Ŵyl Cynon (Hydref 11). Mae gan Sarnicol ddisgrifiad cofiadwy o'r ail ffair. Tyrrai pobl iddi "o bedwar ban byd", o Geinewydd, Llandysul, Llanarth, Talgarreg, Pant-defaid, Tre-groes, a lleoedd eraill yn y cylch.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Cyfres Crwydro Cymru, 1953), tt. 91-4.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.