Agor y brif ddewislen
Pwll Ceris a phont Telford
Pwll Ceris

Mae Pwll Ceris (Saesneg: The Swellies; amrywiad hynafiaethol: Pwll Cerist) yn drobwll peryglus yn Afon Menai, rhwng Ynys Môn ac Arfon yng ngogledd Cymru.

Mae'n gorwedd hanner ffordd rhwng Pont Britannia a Phont y Borth, ychydig i'r de o Ynys Welltog ac i'r dwyrain o Ynys Gored Goch. Yno ceir cerrig y Swelley, a welir pan fo'r llanw'n isel, sy'n peri i'r dŵr ferwi'n wyllt o'u cwmpas pan ddaw'r llanw i mewn.

TraddodiadauGolygu

NenniusGolygu

Mae Nennius yn cofnodi "Gwyrthiau Ynys Môn" yn yr adran ar "Ryfeddodau Prydain" yn ei Historia Brittonum ("Hanes y Brythoniaid": tua dechrau'r 9g). Y bedwaredd wyrth sydd ganddo yw:

...carreg yn cerdded yn ystod y nos yn nyffryn Citheinn. Taflwyd hi gynt i Ceruus (Cerus neu Ceris), sydd yng nghanol y môr a elwir Mene (Menai), ond drannoeth, heb os nac onibai, cafwyd hi ar fin y dyffryn hwnnw.

Hen englynGolygu

Ceir hen englyn am Bwll Ceris a gedwid ar lafar ym Môn:

Pwll Ceris, pwll dyrys drud -- pwll yw hwn
Sy'n gofyn cyfarwydd;
Pwll annwfn yw, pwll ynfyd,
Pella o'i go' o'r pylla' i gyd.

LlenyddiaethGolygu

Mae nofel fer ramantus Owen Williamson, Ceris y Pwll yn adrodd helyntion y cymeriad dychmygol Ceris (mae'r awdur yn dychmygu fod y pwll yn dwyn enw y cymeriad hwnnw) ar ddechrau Oes y Seintiau.

Darllen pellachGolygu

  • J.E. Caerwyn-Williams (gol.), Llên a Llafar Môn (Llangefni, 1963). Tud. 55: "Pwll Ceris".
  • Owen Williamson, Ceris y Pwll (Caernarfon, 1908)

Gweler hefydGolygu