Afon Cilieni
Afon fer yn ne Powys, Cymru, yw Afon Cilieni. Gall yr enw olygu "afon sy'n tarddu mewn cilfach".[1] Mae'n tarddu ar lethrau deheuol Mynydd Epynt o fewn ardal hyfforddi filwrol y Fyddin Brydeinig ac yn llifo trwy bentrefannau Pentre-bach a Phentre'r-felin ar ei ffordd i'w chydlifiad ag Afon Wysg tua 2 km i'r dwyrain o Bontsenni.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52°N 3.5°W |
Mae Afon Cilieni yn Ardal Gadwraeth Arbennig ar gyfer pysgod amrywiol gan gynnwys tair rhywogaeth benodol: y llysywen bendoll, y wangen a'r penlletwad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales (Gomer, 2007), t.86