Gwangen

Pysgodyn o deulu'r ysgaden sy'n gallu mudo rhwng afon a môr
Gwangen
Llun y rhywogaeth
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Clupeiformes
Teulu: Clupeidae
Genws: Alosa
Rhywogaeth: A. fallax
Enw deuenwol
Alosa fallax
(Lacepède 1803)

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Clupeidae ydy'r Gwangen sy'n enw benywaidd; lluosog: gwangod (Lladin: Alosa fallax; Saesneg: Twait Shad).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop. Mae'n bysgodyn dŵr hallt a dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar adegau yn aberoedd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Bioleg a chylch bywyd

golygu

Mae gan Alosa fallax gylch bywyd tebyg i A. alosa gwangen allis). Gwyddys eu bod yn cydfyw yn sympatrig[2] yn yr un cynefin. Mae rhai astudiaethau wedi awgrymu y gall rhywogaethau A. fallax ac A. alosa ymgroesi.. Maent yn rhywogaethau anadromaidd, fel llawer o rywogaethau eraill yn y genws Alosa[3]. Fodd bynnag, mae peth cofnodion ohonynt yn cael eu tirgloi yn awgrymu gallu i addasu'n dda i'w hamgylchedd. Maent yn byw yn y môr yn bennaf ar fannau bwydo ac yn mudo i'w mannau silio rhwng Ebrill a Mehefin unwaith y byddant yn rhywiol aeddfed. Mae aeddfedrwydd fel arfer yn amrywio o 3-7 oed. Mae'r rhai ifanc yn ymddangos mewn aberoedd a dŵr hallt o Fehefin i Orffennaf. Gall halltedd dŵr môr achosi problemau i'r rhai ifanc sy'n mudo o ddŵr croyw.

Gostyngiad yn y boblogaeth

golygu

Mae poblogaethau wedi'u lleihau'n bennaf trwy orbysgota, llygredd, dinistrio cynefinoedd a rhwystro llwybrau mudol. Mae hybrideiddio rhwng rhywogaethau yn fwy tebygol gyda rhywogaethau yn cael eu heffeithio gan aflonyddwch dynol. Amcangyfrifir bod y cyfnod a dreulir yn yr aber, neu'r amser y maent yn yr aberoedd yn mudo o fannau silio i'r môr, yn para yn A. fallax o hyd at flwyddyn a hanner. Fodd bynnag, nid yw'r amcangyfrif yn cymryd i ystyriaeth amrywiad unigol a goroesiad ieuenctid yn y cyfnod aberol.

Cadwraeth

golygu

Mae pedair ardal gadwraeth arbennig wedi'u dynodi yn Iwerddon lle gwyddys bod rhywogaethau Alosa yn silio. Mae Alosa fallax wedi'i osod yn Atodiad III Confensiwn Bern (1979) sy'n rhestru rhywogaethau ffawna gwarchodedig yn ogystal ag yn atodiad II a V Cyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd (1992) sy'n rhestru, yn y drefn honno, rywogaethau y mae eu cadwraeth yn gofyn am ddynodiad ardaloedd cadwraeth arbennig ac sy'n destun mesurau rheoli.

Yn Lloegr mae prosiect Unlocking The Severn, consortiwm o'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Asiantaeth yr Amgylchedd a Natural England yn creu llwybrau pysgod o amgylch coredau ar Afon Hafren. Y nod yw agor 150 milltir (241 km) o'r afon er mwyn i'r pysgodyn gynyddu ei gynefin bridio dŵr croyw. Erbyn 2021 mae pasys yn Diglis a Bevere, ger Caerwrangon, wedi'u cwblhau.

Hanes yng Nghymru a'r Gororau

golygu
  • Aberystwyth Observer, 25 Ebrill 1885[2]
Cyfeiriad at "salmon shad" yn ogystal â "salmon" fel rhan o farchnad dinod ("dull") y diwrnod hwn. Gwangen yw "salmon shad" mae'n debyg. Dod o'r heli i'r afonnydd i fagu run fath a'r eog[4]
  • Gelwid yr aderyn pibydd y dorlan gan bysgotwyr yn Afon Hafren yn shad bird gan i'r aderyn mudol hwn gyrraedd glannau'r afon hwnnw am gyfnod yr haf ar ddechrau tymor pysgota gwangod[5]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan www.marinespecies.org; adalwyd 4 Mai 2014
  2. Lochet, A., S. Boutry, and E. Rochard. Estuarine Phase during Seaward Migration for Allis Shad Alosa Alosa and Twaite Shad Alosa Fallax Future Spawners. Ecology of Freshwater Fish 18 (2009): 323-35.
  3. Coscia, I., V. Rountree, J. J. King, W. K. Roche, and S. Mariani. A Highly Permeable Species Boundary between Two Anadromous Fishes. Journal of Fish Biology doi:10.1111/j.1095-8649.2010.02768.x 77.5 (2010): 1137-149.
  4. Greta Hughes, cyn swyddog pygodfeydd môr Llŷn yn [1]
  5. Oxford English Dictionary