Afon Crigyll
afon yn Ynys Môn
Afon fechan yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw afon Crigyll. Mae'n tarddu fel nifer o nentydd bychain i'r gogledd o bentref Bryngwran ac yn llifo tua'r de a'r de-orllewin.
![]() Afon Crigyll ger Rhosneigr | |
Math | afon ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.262534°N 4.45383°W ![]() |
![]() | |
Mae'n llifo i'r dwyrain o bentref Llanfihangel-yn-Nhowyn a Llyn Traffwll, lle mae nant yn llifo allan o'r llyn yn ymuno â hi. Yna, mae'n llifo heibio ochr ogleddol Rhosneigr i gyrraedd y môr yn Nhraeth Crigyll.
Ceir corsydd ar hyd afon Crigyll sy'n ffurfio rhan o warchodfa RSPB Gwlyptiroedd y Fali.