Crigyll
Traeth yn ymyl Rhosneigr, Ynys Môn yw Crigyll neu Traeth Crigyll. Mae Afon Crigyll yn cyrraedd y môr yno. I'r gogledd ceir maes awyr y Fali.
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfair-yn-Neubwll |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 53.234387°N 4.523711°W |
Byddai lladron Crigyll yn enwog am ysbeilio llongau wrth iddynt daro'r creigiau. Yn 1740 ysbeiliodd nifer o'r trigolion y Loveday & Betty Cawsant eu herlyn yn Llys Biwmares yn 1741 ond fe'u cafwyd yn ddieuog er eu bod wedi eu dal gyda nwyddau o'r llong. Gweler hefyd hanes trigolion Pen-bre ger Caerfyrddin.
Yn Hydref 1867 cyhoeddwyd erthygl yn The Times, a oedd yn cofnodi llongddrylliad yr Earl of Chester , gan ddweud, “The wreck is now a prey to the notorious wreckers of the coast known to Welsh seafaring men as lladron Crugyll (the Crugyll robbers). Many hundreds of them were there yesterday stealing whatever they could carry away.”
Ysgrifennodd Lewis Morris (1701–1765) gerdd ddychanol adnabyddus yn dymuno gweld crogi "Lladron Crigyll". Dyma'r drydedd bennill:
- Os llong a ddaw o draw i drai,
- I draethau'r bobl drythyll,
- Tosturi'r rhain sydd fel y tân
- Neu'r Gwyndraeth a'u gwna'n gandryll;
- Gorau gwaith a wnâi wŷr Môn
- Oedd grogi lladron Crigyll.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lewis Morris, 'Lladron Crigyll', yn Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif, gol. E. G. Millward (Cyhoediadau Barddas, 1991).