Bryngwran

cymuned ar Ynys Môn

Pentref a chymuned yn Ynys Môn yw Bryngwran.[1][2] Saif yng ngogledd-orllewin yr ynys ar briffordd yr A5, rhwng Caergeiliog a Gwalchmai. Hyd yn ddiweddar, roedd y drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond wedi adeiladu'r A55, sy'n mynd ychydig i'r de o'r pentref, mae'n ddistawach. Mae'r rhan fwyaf o'r pentref ym mhlwyf eglwysig Llechylched, gydag ychydig o'r rhan ddwyreiniol ym mhlwyf Llanbeulan. Mae yma dafarn or enw 'Yr Iorwerth Arms' sy'n cynal amrywiaeth o ddigwyddiadau fel Phil Fest, Parti Calan Gaeaf a Grotto Sion Corn.[angen ffynhonnell]

Bryngwran
Eglwys y Drindod, Bryngwran
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,692.223 ±0.001 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlanfair-yn-Neubwll, Bodedern, Trewalchmai, cymuned Aberffraw, Llanfaelog, Bodffordd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.269°N 4.483°W, 53.262534°N 4.45383°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000007 Edit this on Wikidata
Cod OSSH3477, SH3642976758 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Hanes golygu

Nid yw pentref Bryngwran yn hen iawn. Adeiladwyd Eglwys y Drindod yn 1841, i gymeryd lle yr hen eglwys, Eglwys Sant Ulched (neu Ylched). Gellir gweld gweddillion yr hen eglwys rhyw filltir i'r de-orllewin o'r pentref. Mae rhannau o hen eglwys Llanbeulan gerllaw yn dyddio i'r 12g, ac mae bedyddfaen yma sydd efallai yn dyddio i hanner cyntaf y 11g.

Addysg golygu

Lleolir Ysgol Gynradd Gymunedol Bryngwran yn y pentref.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bryngwran (pob oed) (894)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryngwran) (597)
  
69.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryngwran) (655)
  
73.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryngwran) (133)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Rhagfyr 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu