Llanfihangel-yn-Nhywyn

pentref ar Ynys Môn
(Ailgyfeiriad o Llanfihangel-yn-Nhowyn)

Pentref bychan a phlwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanfihangel-yn-Nhywyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir fymryn i'r de o'r briffordd A5 yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o dref Caergybi. Mae'n rhan o gymuned Llanfair-yn-Neubwll.

Llanfihangel-yn-Nhywyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2671°N 4.5187°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Hanes a hynafiaethau

golygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd eglwys Llanfihangel-yn-Nhywyn yn un o gapeli eglwys Gwenfaen (Rhoscolyn). Mae'n un o sawl eglwys yng Nghymru a enwir ar ôl Sant Mihangel.

Ceir pedwar llyn bychan ger y pentref, sef Llyn Traffwll, Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a Llyn Dinam, sy'n ffurfio gwarchodfa natur Gwlyptiroedd y Fali. Llyn Traffwll yw'r un agosaf i'r pentref gyda'r lan orllewinol yn dod o fewn canllath iddo.

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato