Llyn Perfeddau

llyn bychan ym mynyddoedd y Rhinogau, rhwng y Llethr a Rhinog Fach, yn ardal Ardudwy, Meirionnydd

Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Perfeddau. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Rhinogau, rhwng Y Llethr a Rhinog Fach, yn ardal Ardudwy, Meirionnydd. Mae'n gorwedd tua 460 metr uwch lefel y môr.

Llyn Perfeddau
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Cwmnantcol Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.81847°N 3.991399°W Edit this on Wikidata
Map
Llyn Perfeddau dan rew ym mis Mawrth.
Llyn Perfeddau, o lethrau'r Llethr.

Llyn Perfeddau yw prif darddle Afon Cwmnantcol, sy'n llifo ohono i gyfeiriad y gogledd-orllewin. Ymuna ffrwd arall â'r afon ger Bwlch Drws Ardudwy ac wedyn mae'n llifo ar gwrs gorllewinol i lawr Cwm Nantcol ei hun.

Tua milltir a hanner i'r gorllewin o'r llyn ceir ffermdy hen Maesygarnedd, cartref John Jones, Maesygarnedd (1597–1660), un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I o Loegr a brawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato