Afon Cynon
afon yng Nghymru
Afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Taf yw Afon Cynon. Mae'n ffurfio Cwm Cynon.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 357 metr |
Cyfesurynnau | 51.645546°N 3.32608°W |
Aber | Afon Taf |
Mae'n tarddu fel nifer o nentydd ar lechweddau Bannau Brycheiniog uwchben pentref Penderyn. Wedi iddynt ymuno a'i gilydd i ffurfio Afon Cynon, mae'n llifo tua'r de trwy Hirwaun, yna'n troi tua'r de-ddwyrain trwy Ben-y-waun, Aberdâr, Abercwmboi, Aberpennar a Phenrhiw-ceibr, cyn ymuno ag Afon Taf gerllaw Abercynon.