Afon Dringarth

afon yng Nghymru

Afon yn ne Powys yw Afon Dringarth. Saif o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Afon Dringarth
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8206°N 3.5392°W Edit this on Wikidata
Map

Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Fan Dringarth, llechweddau gorllewinol Fan Fawr a llechweddau deheuol Craig Cerrig-gleisiad yn y Fforest Fawr, lle mae nifer o nentydd yn ymuno i ffurfio'r afon. Mae'n llifo tua'r de am 5 km (3 milltir) cyn ymuno ag Afon Llia i ffutfio Afon Mellte.

Adeiadwyd argae ar yr afon yn nechrau'r 20g i greu Cronfa Ystradfellte.

Afon Dringarth ger Cronfa Ystradfellte