Fan Fawr

mynydd (734m) ym Mhowys

Fan Fawr yw'r copa uchaf yn y Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog . Saif ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A470, i'r de-orllewin o Aberhonddu, Powys; cyfeiriad grid SN969193. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 439 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Fan Fawr
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr734 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.86332°N 3.49741°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN9698919369 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd295 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaPen y Fan Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Mae'r nentydd ar lethrau gorllewinol y mynydd yn ffurfio afon Dringarth, a chrewyd Cronfa Ystradfellte trwy adeiladu argae ar yr afon yma. Ar yr ochr ddwyreiniol, mae'r nentydd yn ffurfio afon Taf Fawr; ceir argae yma hefyd, sy'n ffurfio Cronfa'r Bannau. Ar y ochr ogledd-ddwyreniol, mae afon Tarell yn tarddu, ac yn llifi i afon Wysg. Yn y de, mae Afon y Waun yn llifo i mewn i afon Hepste.

Copa Fan Fawr, gan edrych draw am Corn Du, gan Erwyn Jones

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.